Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 29 Mawrth 2017.
‘Does bosibl, Ysgrifennydd y Cabinet, nad un o’r ffyrdd eraill o wella mynediad at feddygon teulu yw lleihau beichiau diangen, ac rwyf wedi gweld gwaith aruthrol fferyllwyr cymunedol yn fy etholaeth drosof fy hun, wrth iddynt ymdrin â mân anhwylderau er enghraifft. Felly, tybed pa mor obeithiol ydyw y bydd y cynllun Dewis Fferyllfa, lle y gall cleifion, gyda rhywfaint o wybodaeth, gael mynediad at fferyllfeydd cymunedol i ymdrin â’r pethau a fydd yn tynnu rhywfaint o’r baich oddi ar ysgwyddau meddygon teulu—fel bod gan feddygon teulu fwy o amser i ymdrin â’r math o gleifion y mae Angela Burns newydd fod yn cyfeirio atynt.