3. 3. Datganiad: Ymateb i Erthygl 50

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 3:19, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae’n amlwg yn ddiwrnod hanesyddol—y Prif Weinidog yn sbarduno erthygl 50 sy’n cychwyn y broses negodi ffurfiol ar ôl canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin y llynedd.

Rwy’n gwrthwynebu eich paragraff sy’n sôn am Lywodraeth Cymru yn cael ei hepgor o’r broses a heb gael ei chynnwys yn y broses negodi. Mae’n rhaid i mi ddweud bod y Prif Weinidog ei hun wedi ymweld â Chymru bum gwaith, ac mae David Davis ei hun wedi ymgysylltu sawl gwaith â chi, ac eraill yn y Siambr hon, dylwn ychwanegu, fel y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ond pan edrychaf ar yr ymgysylltiad y mae Prif Weinidog Cymru wedi ceisio’i gael gyda phobl a bleidleisiodd gyda’r mwyafrif ar ôl 23 Mehefin—nid yw ef na’i Lywodraeth wedi ymgysylltu o gwbl ag unrhyw un a bleidleisiodd gyda’r mwyafrif ar 23 Mehefin ac sy’n eistedd ar yr ochr hon i’r Siambr. Ac felly byddai ychydig o gysondeb, rwy’n credu, o fudd i Brif Weinidog Cymru pan fo’n gwneud yr honiadau hyn. Rwy’n gresynu’n arw hefyd at yr iaith a ddefnyddiodd Prif Weinidog Cymru ddoe yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog: na allai weld unrhyw arian yn dod i amaethyddiaeth ar ôl 2020, na chronfeydd strwythurol. Ar ba dystiolaeth rydych chi’n seilio hynny, Brif Weinidog? Neu a ydym i fod i ragdybio mai dyna yw polisi swyddogol y Blaid Lafur a’ch bod yn siarad yn unig am bolisi’r Blaid Lafur?

Mae’r llythyr y mae’r Prif Weinidog wedi’i anfon at y Llywydd ym Mrwsel heddiw yn nodi’r meysydd y mae’n credu y dylai’r trafodaethau fynd i’r afael â hwy yn glir. Ac rwy’n gobeithio y bydd Prif Weinidog Cymru yn croesawu’r meysydd y mae’r Prif Weinidog wedi’u nodi yn ei llythyr, yn enwedig y cyfeiriad penodol at Iwerddon a’r broses heddwch, a’r trafodaethau sylweddol y bydd eu hangen ynghylch hynny, a phwysigrwydd cael trafodaethau cyfochrog a pheidio ag ynysu’r setliad ymwahanu rhag y berthynas barhaus y mae’r DU angen ei datblygu gyda’r UE. Ac rwy’n gobeithio y bydd Prif Weinidog Cymru yn gallu cymeradwyo’r safbwynt hwnnw; ac yn wir, rwy’n gobeithio y bydd yn gallu cefnogi pob un o’r egwyddorion sydd wedi’u cynnwys yn y llythyr y mae’r Prif weinidog wedi’i anfon—a hefyd yr egwyddorion a nododd y Prif Weinidog yn ei haraith yn Lancaster House, a oedd yn nodi’n glir y 12 egwyddor allweddol a fydd yn ffurfio sail i’r trafodaethau dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae’n bwysig fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod parhad yn y neges a pharhad yn y trafodaethau. Rwy’n derbyn hynny’n llwyr, Brif Weinidog, a byddaf yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod hynny’n digwydd. Ac rwy’n credu na ddylid cael—fel y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud yn glir—unrhyw fachu pŵer neu fachu cyfraith yn ôl oddi wrth unrhyw un o’r gweinyddiaethau datganoledig i San Steffan. Ac mae’r Prif Weinidog wedi datgan hynny’n glir, ac yn y pen draw, yn ei llythyr heddiw, mae’n nodi ei bod yn gweld y bydd cyfrifoldebau a phwerau sylweddol yn cael eu trosglwyddo i’r gweinyddiaethau datganoledig.

Yn eich araith heddiw, Brif Weinidog, rydych yn nodi—ac rwy’n credu ei fod yn bwynt perthnasol iawn i’w nodi—gwaith y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, oherwydd mae llawer o waith i’w wneud yn ddomestig—fel y nodais mewn cyfraniadau eraill a wneuthum yn fy areithiau yn y Siambr hon—ynglŷn â sut y bydd y DU yn gweithredu pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a sut—a dyma’r model rwy’n ei ffafrio—y bydd fframweithiau’r DU, a fyddai’n cael eu rhoi ar waith ar gyfer amaethyddiaeth, ar gyfer cronfeydd strwythurol ac ar gyfer ariannu addysg uwch, yn gweithio ar sail gyfartal i wneud yn siŵr nad oes unrhyw ran o’r DU yn cael ei heffeithio’n anghymesur gan unrhyw newidiadau a allai ddigwydd. Ac felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Prif Weinidog roi syniad i ni sut y mae’n credu y dylai’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ddatblygu yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Oherwydd rwy’n credu bod yna berygl gwirioneddol y byddwn yn colli golwg ar y newid y gallwn ei gyflawni yn y Siambr hon, a’r rôl a fydd gan y Llywodraeth hon, drwy ganolbwyntio gormod ar yr hyn sy’n digwydd ym Mrwsel, a pheidio â chanolbwyntio ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud yma yng Nghymru i sicrhau bod pa bynnag negodiad a chytundeb sy’n codi o’r cyd-drafod hwnnw o fudd i bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Y pwynt arall yr hoffwn ei wneud hefyd: rwy’n credu bod y Bil diddymu mawr, y Papur Gwyn a fydd yn cael ei gyhoeddi yfory, yn bwysig iawn. Sylwaf fod y Prif Weinidog yn nodi yn ei ddatganiad heddiw y bydd ganddo lawer mwy i’w ddweud am hwnnw, ond mae’n bwysig, unwaith eto, fod hwnnw’n faes arall y gallem effeithio’n fawr iawn arno o ran sicrhau bod Cymru—wrth drosglwyddo cyfrifoldebau pan fyddant yn dychwelyd o Frwsel—fod y cyfrifoldebau cywir yn dychwelyd i’r sefydliad hwn fel bod difidend cadarnhaol i ddatganoli a difidend cadarnhaol i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Lloegr o ran y modd y caiff pwerau a chyfrifoldebau eu hailddosbarthu ar ddiwedd y cyfnod negodi o ddwy flynedd.

Y pwynt arall y mae Prif Weinidog Cymru yn gywir yn ei nodi yw’r ffocws ar drefniadau trosiannol y bydd yn rhaid eu rhoi ar waith, o bosibl, os nad yw’r ddwy flynedd yn ddigon hir i gwblhau’r rhan fwyaf o’r trafodaethau. Pa fath o drefniadau trosiannol y mae’r Prif Weinidog a’i Lywodraeth yn ystyried y gallai fod eu hangen? Mae siarad am drefniadau trosiannol yn un peth, mae deall beth yn union y gallent ei olygu yn beth arall. Ac rwy’n credu, o ystyried bod y Prif Weinidog yn nodi’n glir yn ei llythyr heddiw nad yw hi’n anelu i gael ymagwedd ‘dim cytundeb’—fel y mae’n nodi, mae’n bwysig fod y cytundeb yn cael ei gwblhau, ond cytundeb sy’n deg i’r ddau bartner yn y trafodaethau hyn. Oherwydd nid yw hyn yn ymwneud â bychanu Ewrop ac ni ddylai ymwneud â bychanu’r DU. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn cadw ein cysylltiadau cryf ag Ewrop fel partneriaid o ran diogelwch, amddiffyn a chyfleoedd economaidd, gan gydnabod y bydd sofraniaeth yn dychwelyd i’r ynysoedd hyn ac y bydd y penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud o fewn yr ynysoedd hyn, ond gan adlewyrchu, yn bwysig, nad yw’r ynysoedd y bydd sofraniaeth yn dychwelyd iddynt yr un fath â’r ynysoedd ym 1972 pan ymunasom â’r Undeb Ewropeaidd. Mae gennym Lywodraeth ddatganoledig, mae angen i ni gydnabod hynny ac mae’r Prif Weinidog wedi rhoi’r ymrwymiad hwnnw. Ond rwy’n gwneud y pwynt a wneuthum wrth agor fy sylwadau, Brif Weinidog: rwy’n credu bod Llywodraeth y DU yn ddiffuant yn ei hymrwymiad i weithio gyda chi a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Mae’n drueni mawr dros yr wyth neu naw mis diwethaf nad ydych wedi dewis gweithio gydag eraill yn y Siambr hon.