Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 29 Mawrth 2017.
Wel, rhaid i mi ddweud wrth arweinydd UKIP: mae’n disgrifio’r diwrnod fel diwrnod dychweliad hunanlywodraeth democrataidd; os yw’r Alban yn pleidleisio dros ‘adael’ mewn refferendwm, tybed a fyddai’n dweud hynny am yr Alban. Ond mae’n bwynt rhyfedd i’w wneud yn hynny o beth.
Nid yw’r DU erioed wedi colli ei sofraniaeth. Mae bob amser wedi cadw ei sofraniaeth. Mae’n wladwriaeth sofran, ac mae’n dal i rannu ei—. Bydd bob amser yn rhannu ei sofraniaeth. Mae’n aelod o sefydliadau cenedlaethol sy’n sefydliadau amlwladol lle y caiff sofraniaeth ei rhannu gyda’r sefydliadau hynny, fel arall ni fyddech byth yn cael unrhyw gytuniadau, ni fyddech yn aelod o’r Cenhedloedd Unedig, ac ni fyddech yn aelod o unrhyw sefydliadau uwch-genedlaethol. Ffolineb llwyr yw awgrymu bod y DU neu unrhyw wladwriaeth arall, o ran yr enghraifft honno, mewn unrhyw ffordd yn gyfan gwbl sofran yn ystyr glasurol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ceir peth eironi—ac rwy’n gwybod bod hyn wedi digio Aelodau Plaid Cymru, ond achosodd rywfaint o ddifyrrwch i mi—ond ni chredais erioed y byddwn yn gweld y dydd pan fyddai UKIP yn cyhuddo Plaid Cymru o beidio â bod yn ddigon Cymreig neu’n ddigon cenedlaetholgar. O ystyried bod UKIP bum mlynedd yn ôl yn blaid a oedd yn gadarn wrth-Gymreig ac yn gadarn wrth-ddatganoli, mae rhywfaint o eironi yn hynny onid oes? Mae pethau wedi newid yn wir. Nid oes amheuaeth am hynny.
O ran ailymladd yr ymgyrch, mae’r ymgyrch ar ben; y llynedd oedd hynny. Mae hwn yn gwestiwn ynglŷn â beth a wnawn nesaf. Mae’n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd UKIP nad wyf wedi clywed unrhyw beth adeiladol ganddo o gwbl. Rydym wedi derbyn y canlyniad. Rydym wedi cyflwyno cynigion pendant. Rydym wedi cyflwyno Papur Gwyn. Rydym wedi cyflwyno cynigion ar gyfer llywodraethu’r DU yn fewnol. Yr hyn a gaf ganddo yw, ‘Bydd popeth yn iawn.’ Dim cynigion pendant o gwbl. Edrychaf ymlaen at eu gweld pan, ac os dônt i ben â’u cynhyrchu yn UKIP—os gallant gytuno â’i gilydd, hynny yw.
Y peth arall sy’n rhaid i mi ei ddweud wrtho yw fy mod yn anghytuno’n sylfaenol ag ef y bydd cytundeb masnach rydd yn cwmpasu popeth. Ni fydd yn gwneud hynny. Mae’n rhaid ei fod yn deall, ‘does bosibl, fod Cyngor Gweinidogion Ewrop yn cynrychioli 27 o wledydd gwahanol. Bydd y broses gadarnhau ar gyfer unrhyw gytundeb yn galw am gadarnhad seneddau cenedlaethol ac yn wir, rhai rhanbarthol, yn enwedig yng Ngwlad Belg. Fodd bynnag, nid yw’r broses gadarnhau yn cynnwys BMW a Mercedes-Benz, nad oes ganddynt sedd ar fwrdd Cyngor Gweinidogion Ewrop ac ni fydd yn cael cyfle i ddylanwadu ar yr hyn y mae’r Undeb Ewropeaidd cyfan yn ei wneud o ran ei drefniadau masnach terfynol.
O ran tariffau, gallaf ddweud wrtho mai’r tariff cyfartalog yw 5.5 y cant. Mae cannoedd ohonynt: mae tariffau ar hetiau ac ymbarelau. Ond yn fwy difrifol, mae tariffau ar gydrannau modurol ac awyrennau ac mae’r tariffau trymaf ar fwyd, yn drymaf ar fwyd, yn enwedig cynnyrch llaeth. Ni allaf gredu ei fod o’r farn mai’r ateb i osod tariffau a’u heffaith yw gostwng gwerth arian. Cadw’r bunt yn isel, ei gwneud yn ddrud dros ben i ni fewnforio nwyddau, gwthio chwyddiant drwy’r to, ond mae hynny’n iawn oherwydd bydd yn gwrthbwyso tariffau. Nid yw hwnnw’n bolisi economaidd cadarn a chynaliadwy.
O ran Sefydliad Masnach y Byd, unwaith eto, mae’n ymddangos ei fod yn meddwl bod chwalu rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn beth da. Nid oes ond 60 miliwn o bobl yn y DU. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn farchnad lawer iawn yn fwy o faint. Cawn ein brifo’n fawr gan y tariffau a osodir. Bydd ein cynhyrchwyr yn gweld bod eu nwyddau’n ddrutach. Ar wahân i’r rhwystr ariannol, ceir rhwystr seicolegol. Pe baech yn fuddsoddwr o economi fawr arall, pam y byddech yn buddsoddi mewn gwlad lle roedd rhwystr tariff ar waith rhwng un o’ch ffatrïoedd a’r llall? Mae’n amlwg nad yw hynny’n mynd i ddigwydd. Mae’r diwydiant modurol yn dweud hynny wrthym, mae’r diwydiant awyrennau yn dweud hynny wrthym. Tybed â phwy y mae’n siarad pan fydd yn ystyried safbwyntiau pobl.
Rwy’n edrych ymlaen at y £350 miliwn yr wythnos a fydd yn cael ei wario yn awr ar y GIG ar draws y DU. Mae hynny wedi cael ei anghofio’n llwyr, ac yn gyfleus. Mae’n fy atgoffa o rywun sy’n rhan o grŵp o bobl a daflodd fricsen drwy ffenestr ac sydd bellach yn beirniadu’r bobl sy’n ceisio rhoi’r ffenestr yn ôl at ei gilydd eto drwy ddweud na chafodd y ffenestr ei thorri yn y lle cyntaf neu ein bod yn ei rhoi’n ôl at ei gilydd yn y ffordd anghywir, neu mae rhai o’i blaid hyd yn oed yn dadlau na wnaethant daflu’r fricsen drwy’r ffenestr yn y lle cyntaf. Y realiti yw bod rhai ohonom yn ceisio symud ymlaen, mae rhai ohonom yn ceisio sicrhau bod gan y DU ddyfodol y tu allan i’r UE, nad yw Cymru yn cael ei niweidio o ganlyniad i adael yr UE, ond nid yw ei blaid wedi cyflwyno unrhyw gynigion o gwbl—dim cynigion o gwbl. Hyd yn oed ddoe—mae hon yn un dda—roedd yna daflen yn dweud y byddai pysgotwyr yn y DU yn cael mynediad i barth pysgota 200 milltir. Rhag ofn nad yw wedi sylwi, mae’r DU o fewn 200 milltir i wledydd eraill yr holl ffordd o gwmpas y DU. Nid oes parth pysgota 200 milltir. Nid yw hwnnw ond yn bodoli os oes gennych fwlch o 200 milltir rhyngoch chi a gwlad arall, ac nid yw’n bodoli yn achos y DU. Rhaid i mi ddweud, mae’r nonsens yn dal i barhau gydag UKIP, ond rwy’n cynnig cyfle iddo gyflwyno rhywbeth synhwyrol a chadarn yn ystod yr wythnosau nesaf i ni allu ei drafod a’i archwilio.