Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 29 Mawrth 2017.
Rwy’n gresynu bod y Prif Weinidog, unwaith eto, wedi methu â chodi i lefel y digwyddiadau? Onid yw’n gweld bod heddiw mewn gwirionedd yn ddiwrnod gwych i’r Deyrnas Unedig, ac yn ddiwrnod gwych i Gymru, am mai’r hyn a welwn yma yw dechrau proses o adfer hunanlywodraeth ddemocrataidd i Gynulliadau fel hwn, lle y bydd gennym Weinidogion sy’n gwneud penderfyniadau ac yn cael eu dwyn i gyfrif amdanynt, ac os nad ydym yn hoffi’r hyn a wnânt, gallwn bleidleisio yn eu herbyn? Ceir braint hefyd i bobl ar sail reolaidd ar ffurf etholiadau. Felly, onid yw hynny’n fantais ddiamwys i’r wlad hon? Wrth gwrs, nid wyf yn disgwyl i’r blaid ranbarthol gyferbyn—y blaid ranbarthol Ewropeaidd, sef yr esgus o genedlaetholwyr Cymreig gyferbyn, ddeall hynny. Byddai’n llawer gwell ganddynt i ni gael ein llywodraethu o Frwsel nag o Gaerdydd. ‘Does bosibl na ddylai Llywodraeth Lafur Cymru fabwysiadu safbwynt mwy synhwyrol.
Un o’r rhesymau—os yw hyn yn wir—pam nad yw’r Prif Weinidog wedi gwrando ar Brif Weinidog Cymru, yn ddiau, yw oherwydd ei fod yn dal i ailymladd ymgyrch y refferendwm ac ef yw llais gofid a gwae. Mae’n gwneud i Gordon Brown edrych yn wirioneddol siriol mewn cymhariaeth. Nid yw’n gweld unrhyw gyfleoedd ac mae’n gweld yr holl broblemau posibl. Mae Nicola Sturgeon yn defnyddio’r broses ar gyfer gosod ei stondin yn wleidyddol ar gyfer refferendwm nad yw mo’i heisiau mewn gwirionedd am ei bod yn gwybod y bydd yn ei cholli. Yn sicr, os ydym am chwarae rhan lawn yn y broses o negodi â Llywodraeth y DU ynglŷn â’r dyfodol ar ôl i ni adael yr UE, yr amser i wneud hynny, ar sail gadarnhaol, yw nawr, ac nid rhefru’n gyson am yr agweddau negyddol a’r ansicrwydd sy’n bodoli, doed a ddel.
Fel y nododd arweinydd y Ceidwadwyr, mae wyneb gan y Prif Weinidog i gwyno nad yw’n cael rhan yn y broses ag yntau mor bendant ei wrthwynebiad i gynnwys pleidiau eraill ar wahân i Blaid Cymru yn y broses o negodi safbwynt cyffredin y gallai Cymru ei arddel o ran y DU.
O ran mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, i’r graddau y mae hynny’n golygu masnach rydd, mae’n gwybod bod y Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i geisio sicrhau’r nod hwnnw, a byddai sicrhau hynny’n fuddiol i’r ddwy ochr—yr UE a’r DU. Mae gennym ddiffyg masnach enfawr o £60 biliwn y flwyddyn gyda’r UE. O ran ceir yn unig, mae gennym ddiffyg o £20 biliwn y flwyddyn gyda’r Almaen, felly mae gennym destun bargeinio enfawr yn ein dwylo yn y broses negodi, ond eto i gyd y cyfan y gall y Prif Weinidog ei ddweud yw na fyddwn yn gallu gwerthu unrhyw geir am y gallai fod tariff o 10 y cant ar geir o bosibl. Wel, rydym eisoes wedi gweld gostyngiad o 18 y cant yng ngwerth y bunt yn y 12 mis diwethaf beth bynnag, sy’n mwy na gwneud iawn am hynny o’i gymharu â lle roeddem y tro diwethaf.
Wrth gwrs fe fydd yna broblemau i amaethyddiaeth yn y ffordd y mae’n disgrifio, ond bydd o fewn ein cymhwysedd yma yn y lle hwn i benderfynu sut i ymdrin â’r problemau hynny. Fe fydd yn arweinydd gweinyddiaeth a fydd â rheolaeth lwyr dros amaethyddiaeth o ganlyniad i adael yr UE, ac rwy’n cytuno’n llwyr ag ef—rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwynt a wnaeth—y dylid dychwelyd pwerau o Frwsel i Gaerdydd ar unwaith lle y bo hynny’n briodol o dan y setliad datganoli sydd gennym eisoes, ac na ddylai fod unrhyw rwystr yn Whitehall neu San Steffan yn y cyfamser.
O ran proses bontio sy’n para mwy na dwy flynedd, bydd llawer o bobl yn gweld hynny fel ystryw amlwg i geisio ein cadw yn yr UE yn hwy hyd yn oed na’r broses a bennwyd o dan gytundeb Lisbon. Ni ddylai fod unrhyw bosibilrwydd o gwbl o ymestyn y broses negodi, oherwydd gallai Deddf Parkinson ddod yn weithredol wedyn, lle y mae’r gwaith yn ehangu i lenwi’r amser sydd ar gael, a bydd cyfnod diddiwedd o amser yn golygu ymestyn yr amser y byddwn yn parhau i fod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd yn ddiddiwedd.
Mae digon o amser yn awr i Lywodraeth Lafur Cymru ddatblygu llinellau polisi y byddent yn hoffi eu gweld. Er enghraifft, mewn amaethyddiaeth, pa fath o drefn cymhorthdal yr hoffem ei chael yng Nghymru ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd? Bydd hynny’n rhywbeth a fydd o fewn ei reolaeth yn gyfan gwbl. Rwy’n cytuno ag ef fod angen i ni roi trefn ar gyllido polisïau yn y dyfodol, ac rwy’n cytuno gyda Phlaid Cymru a’r Llywodraeth y dylem gael pob ceiniog a ddaeth drwy Frwsel—holl arian trethdalwyr Prydeinig beth bynnag. Dylai pob ceiniog o hwnnw ddod i Gymru, boed ar gyfer cymorth amaethyddol, cronfeydd strwythurol neu beth bynnag, ac yna dylai Llywodraeth Lafur Cymru osod ei blaenoriaethau ei hun yng ngoleuni hynny. Gall pobl Cymru ffurfio’u barn eu hunain ynglŷn ag a yw’r blaenoriaethau hynny’n gywir ai peidio adeg etholiadau nesaf y Cynulliad.
O ran y cyfansoddiad, unwaith eto rwy’n cytuno’n llwyr ag ef na ddylid tanseilio’r setliad datganoli mewn unrhyw ffordd. Ond yr hyn sy’n digwydd yn awr drwy sbarduno erthygl 50 yw ein bod mewn gwirionedd yn gwella’r setliad datganoli—mewn gwirionedd rydym yn gwella pwerau’r Cynulliad hwn ac yn gwella pŵer Gweinidogion Cymru i lywodraethu ein hunain mewn ffordd—. Dyma baradocs sefyllfa’r cenedlaetholwyr honedig, wrth gwrs: nid ydynt am gael sefydliadau democrataidd megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu beth fydd ein polisi amgylcheddol, beth fydd ein polisi amaethyddol a chymaint o feysydd polisi eraill sydd ar hyn o bryd yn eiddo i’r Undeb Ewropeaidd.
Felly, rwy’n dweud wrth y Prif Weinidog: codwch eich calon. Dyma gyfle gwych i ni, yn ogystal â her. Wrth gwrs, mae yna heriau a chyfleoedd mewn bywyd yn gyffredinol, ond yn sicr mae’r cyfle i ffurfio cytundebau masnach rydd â’r 85 y cant o’r economi fyd-eang sydd y tu allan i’r yr UE—. O ystyried bod yr Unol Daleithiau yn mynd â 22 y cant o allforion Cymru, er enghraifft, onid oes cyfle gwych yno i gymryd rhan yn y broses o negodi cytundebau masnach rydd er mwyn sicrhau bod Llywodraeth y DU, wrth drafod ar ein rhan mewn gwladwriaeth unedol i’r graddau ein bod yn dal i fod yn un, yn rhoi sylw llawn i fuddiannau Cymru? Maent yn annhebygol o wneud hynny os yw ef yn parhau â’r alarnad enbyd o ofid a gwae a gawn yn rheolaidd, ddydd ar ôl dydd, yng Nghymru. Roedd wrthi ddoe yn ystod y cwestiynau, a heddiw: ‘Bydd rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn drychineb i Gymru.’ Wel, mae’r tariff cyfartalog o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd oddeutu 3.5 y cant. Rhaid cyfaddef, byddent yn uwch ar gyfer rhai sectorau sy’n bwysig i Gymru, megis y sector modurol ac amaethyddiaeth nad ydynt, yn gyffredinol, fel y dywedodd y Prif Weinidog, yn destun cytundeb mewn cytundebau masnach rydd. Ond yn sicr, y cyfle a ddaw o fod yn gadarnhaol yn hytrach na negyddol yw chwarae rhan go iawn yn y broses o drafod â Llywodraeth y DU ac os yw ef yn parhau fel y mae wedi bod yn ei wneud, yna bydd yn parhau i gael ei anwybyddu.