Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 29 Mawrth 2017.
Diolch am y datganiad byr ysgrifenedig heddiw. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn rhannu dyhead y Gweinidog o sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn gweithredu yn y modd mwyaf effeithiol posib, ond mae yna gwestiynau difrifol iawn i’w gofyn, rydw i’n meddwl, ynglŷn â sut y llwyddodd y Llywodraeth i ganiatáu i’r corff yma gyrraedd y fath lefel o aneffeithlonrwydd. A beth mae’r datganiad heddiw a’r camau diweddaraf yn eu gwneud ydy profi, eto, ddyfnder yr aneffeithlonrwydd yna. Mae’r cyfnod diweddar, wrth gwrs, wedi bod yn bryderus iawn, nid yn unig i staff a phawb sy’n ymwneud â Chwaraeon Cymru, ond hefyd o ran datblygiad chwaraeon yng Nghymru. Heb arweinyddiaeth, nid oes strategaeth; heb strategaeth, nid oes datblygiad. Ac mae’n rhaid adfer y sefyllfa yna ar fyrder.
Nifer o gwestiynau ichi, os caf i. Pa adolygiad sydd wedi’i wneud o’r penodiad gwreiddiol a’r broses benodi wreiddiol ar gyfer y cadeirydd sydd rŵan yn gadael? A wnewch chi hefyd gyhoeddi casgliadau’r adolygiad—yr ‘assurance review’—a gafodd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd? Rydym ni’n clywed mai personoliaethau oedd wrth wraidd llawer o’r problemau. A allwch chi roi eglurhad i ni am rai o’r materion a arweiniodd at fethiant y cydberthynas rhwng pobl ar lefel arweinyddol y bwrdd? A sut methodd y Llywodraeth â sylweddoli ar fethiannau mor sylweddol? Ac i gloi: a fydd yna gefnogaeth ychwanegol rŵan, i Chwaraeon Cymru, wrth iddyn nhw geisio cael yn ôl ar y trywydd cywir?