– Senedd Cymru ar 29 Mawrth 2017.
Rwyf wedi derbyn y cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rydw i’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reolaeth Chwaraeon Cymru yn y dyfodol yn dilyn y penderfyniad i roi terfyn ar swyddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y sefydliad? EAQ(5)0154(HWS) [W]
Diolch. Mae Lawrence Conway wedi cytuno i barhau fel cadeirydd dros dro am weddill y flwyddyn, a byddaf yn cyhoeddi enw is-gadeirydd dros dro yn fuan i’w benodi o aelodaeth y bwrdd presennol. Bydd hyn yn darparu sefydlogrwydd a pharhad i arweinyddiaeth Chwaraeon Cymru.
Diolch i chi, Gweinidog, a diolch i chi am eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach y prynhawn yma. Mae datganiad heddiw, mewn llawer o ffyrdd, yn ymestyn y cyfnod o barlys yn Chwaraeon Cymru, ac nid ydym fawr cliriach a doethach ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd yn Chwaraeon Cymru mewn gwirionedd. Ond dyma sefydliad sy’n derbyn dros £22 miliwn o arian cyhoeddus bob blwyddyn, ac rwy’n credu ei fod yn galw am dryloywder gan Lywodraeth Cymru y prynhawn yma. Rydych wedi dweud o’r blaen eich bod wedi disgwyl y byddai’r prosesau llywodraethu arferol yn galluogi bwrdd Chwaraeon Cymru i reoli unrhyw wrthdaro personoliaeth, ac nid yw’n ymddangos bod hynny’n wir o’ch datganiad heddiw.
Felly, a gaf fi ofyn pa mor hir y credwch y bydd yn ei gymryd i gael y corff mewn cyflwr addas i oruchwylio chwaraeon ledled Cymru a pha oruchwyliaeth fydd gennych, wrth symud ymlaen, ar weithgareddau Chwaraeon Cymru? Sut y byddwch yn ceisio newid y prosesau llywodraethu cyfredol a fydd yn rhoi hyder na fydd methiant arall o ran arweinyddiaeth Chwaraeon Cymru? A gaf fi ofyn hefyd: a ydych yn credu mai gwrthdaro personoliaeth yn unig ydoedd neu a ydych yn bwriadu ymchwilio i’r camweithredu a’r problemau strwythurol difrifol a nododd y cadeirydd blaenorol? Os felly, a wnewch chi nodi amserlen ar gyfer pryd y bydd yr adolygiad hwn yn adrodd a phryd y gweithredir ei argymhellion?
Yn olaf, mae gan Chwaraeon Cymru rôl enfawr i’w chwarae yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol a datblygu chwaraeon elitaidd, ond mae’r saga hon, unwaith eto, yn codi cwestiynau ynglŷn â’i ddyfodol, felly, fel y cyfryw, a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i ddiddymu Chwaraeon Cymru yn gyfan gwbl a’i hollti’n wahanol sefydliadau—efallai un yn canolbwyntio ar chwaraeon ac iechyd y cyhoedd a sefydliad chwaraeon elît ar wahân? A ydych yn meddwl bod Chwaraeon Cymru yn addas at y diben yng ngoleuni’r digwyddiadau diweddar hyn?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny ac am y cyfle i’w hateb yn y Siambr. Rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol i mi ddechrau drwy atgoffa’r Aelodau ynglŷn â sut y daethom i’r fan hon heddiw. Nodwyd nifer o bethau yn y cyfnod yn arwain at y bleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeiryddiaeth Chwaraeon Cymru ym mis Tachwedd, ac yn ystod yr adolygiad sicrwydd a gynhaliwyd gan fy swyddogion. Roedd angen ymchwilio pob un o’r rhain yn unol â phroses briodol i fod yn deg â’r unigolion dan sylw. Roedd ein hymchwiliad yn drwyadl, ac mae wedi rhoi sicrwydd sylweddol i mi fod Chwaraeon Cymru yn sefydliad sy’n cael ei redeg yn dda yn y bôn. Hefyd, ysgrifennodd cadeirydd dros dro Chwaraeon Cymru, Lawrence Conway, ataf i gadarnhau mai dyma yw ei safbwynt, gan roi ei farn ar lywodraethu mewnol cryf y sefydliad, a chadarnhawyd hyn hefyd gan adroddiadau archwilio amrywiol. Felly, caf fy nghalonogi gan y wybodaeth honno o ran y trefniadau llywodraethu sydd ar waith ar hyn o bryd.
Fe gyfeirioch at y sefyllfa strwythurol gyda Chwaraeon Cymru, a gallaf gadarnhau bod y panel, y cyfeiriais ato’n flaenorol, wedi cytuno i gwblhau’r adolygiad o Chwaraeon Cymru yr oedd y Cadeirydd blaenorol, Dr Paul Thomas, yn ei gynnal. A gwn eu bod wedi bod yn parhau’r gwaith hwnnw’n gyflym ac yn gobeithio rhoi adroddiad i mi yn ystod mis Ebrill. Bydd yr adroddiad hwnnw’n edrych ar wahanol bethau. Gallai gynnwys strwythur Chwaraeon Cymru, ond bydd yn sicr yn cynnwys i ba raddau y gall Chwaraeon Cymru wneud y mwyaf o’i effaith o ran gwireddu dyheadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd corfforol yng Nghymru, ond hefyd o ran ein hathletwyr elitaidd yn ogystal.
Diolch am y datganiad byr ysgrifenedig heddiw. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn rhannu dyhead y Gweinidog o sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn gweithredu yn y modd mwyaf effeithiol posib, ond mae yna gwestiynau difrifol iawn i’w gofyn, rydw i’n meddwl, ynglŷn â sut y llwyddodd y Llywodraeth i ganiatáu i’r corff yma gyrraedd y fath lefel o aneffeithlonrwydd. A beth mae’r datganiad heddiw a’r camau diweddaraf yn eu gwneud ydy profi, eto, ddyfnder yr aneffeithlonrwydd yna. Mae’r cyfnod diweddar, wrth gwrs, wedi bod yn bryderus iawn, nid yn unig i staff a phawb sy’n ymwneud â Chwaraeon Cymru, ond hefyd o ran datblygiad chwaraeon yng Nghymru. Heb arweinyddiaeth, nid oes strategaeth; heb strategaeth, nid oes datblygiad. Ac mae’n rhaid adfer y sefyllfa yna ar fyrder.
Nifer o gwestiynau ichi, os caf i. Pa adolygiad sydd wedi’i wneud o’r penodiad gwreiddiol a’r broses benodi wreiddiol ar gyfer y cadeirydd sydd rŵan yn gadael? A wnewch chi hefyd gyhoeddi casgliadau’r adolygiad—yr ‘assurance review’—a gafodd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd? Rydym ni’n clywed mai personoliaethau oedd wrth wraidd llawer o’r problemau. A allwch chi roi eglurhad i ni am rai o’r materion a arweiniodd at fethiant y cydberthynas rhwng pobl ar lefel arweinyddol y bwrdd? A sut methodd y Llywodraeth â sylweddoli ar fethiannau mor sylweddol? Ac i gloi: a fydd yna gefnogaeth ychwanegol rŵan, i Chwaraeon Cymru, wrth iddyn nhw geisio cael yn ôl ar y trywydd cywir?
Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Credaf ei bod yn deg dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau priodol ar bob cam o’r ffordd ers i ni eu hysbysu cyntaf ynglŷn â phryderon ar fwrdd Chwaraeon Cymru, yn fuan iawn cyn y bleidlais o ddiffyg hyder yn y cadeirydd a wnaed yn ôl ym mis Tachwedd. Felly, rwy’n hyderus ein bod wedi cymryd camau priodol ar bob cam, a’n bod wedi ceisio bod yn deg â phawb dan sylw. Ers i mi gymryd y camau cyntaf yn ôl ym mis Tachwedd, mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn gweithio’n dda iawn mewn gwirionedd. Ni ddylai pobl sy’n cael cyfleoedd a chymorth chwaraeon gan Chwaraeon Cymru o ddydd i ddydd fod wedi sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn y math o gymorth a chyfleoedd a oedd ar gael iddynt. Ac rwy’n talu teyrnged, fel y gwneuthum o’r blaen, i waith rhagorol staff Chwaraeon Cymru yn ystod y cyfnod hwn y gwn ei fod wedi bod yn arbennig o anodd iddynt fel unigolion, ond hefyd i’r sefydliad yn ogystal, ac rwy’n llwyr ddeall hynny.
O ran yr adolygiad sicrwydd ei hun, edrychodd ar wahanol agweddau ar y pryderon a fynegwyd, ac nid yw’n fwriad gennyf ei wneud yn gyhoeddus, am mai dogfen fewnol a baratowyd ar fy nghyfer fel Gweinidog oedd hi, ac mae wedi bod yn rhan o broses sydd wedi bod yn digwydd ers rhai misoedd, ac un lle roedd gan unigolion a gymerodd ran yn hynny—a chynhaliwyd 42 o gyfweliadau—le dilys i ddisgwyl cyfrinachedd. Credaf ei bod yn bwysig cael sefydlogrwydd y sefydliad yn y dyfodol ar flaen ein meddyliau bob amser. O ran cymorth ychwanegol, mae Lawrence Conway wedi bod yn gweithio gyda’r bwrdd ers i mi wneud fy nghyhoeddiad diwethaf, ac rwy’n falch iawn gyda’r ffordd y mae’r bwrdd wedi ymgasglu o amgylch Lawrence fel cadeirydd dros dro—mae’n canolbwyntio’n gadarn ar y dyfodol. Cyfarfûm â bwrdd Chwaraeon Cymru fy hun yn ddiweddar iawn a chefais gyfle i gofnodi fy niolch iddynt eto am y ffordd y maent wedi ymdrin â sefyllfa anodd dros y misoedd diwethaf, a hefyd am yr angerdd sydd gan bawb ohonynt am chwaraeon yng Nghymru a Chwaraeon Cymru fel sefydliad.
Mae sefyllfa Chwaraeon Cymru bellach mewn perygl o ddod yn stori newyddion drwg hirsefydlog. Mae’r stori’n mynd rhagddi mewn cyfres o benodau anffodus, gyda’r bennod ddiweddaraf heddiw yn digwydd braidd yn gyfleus ar yr un diwrnod â chyhoeddiad erthygl 50. [Torri ar draws.] Wel, efallai eu bod, efallai nad ydynt. Wrth i’r stori fynd rhagddi, mae gwahanol gwestiynau wedi codi. Paul Thomas, y cadeirydd: ai ef oedd yr ymgeisydd mwyaf galluog ar gyfer y rôl neu, fel sy’n cael ei honni mewn rhai cylchoedd, ai swyddog y Blaid Lafur yn unig ydoedd? [Torri ar draws.] Wel, a’n gwaredo rhag y fath syniad. A ddiswyddwyd Mr Thomas am ei fod yn ceisio newid diwylliant y bwrdd oherwydd, fel y mae’n datgan, ei fod yn chwythwr chwiban neu rywbeth tebyg, neu a oedd, yn syml, yn rhywun nad oedd yn gweddu, neu rywun heb syniad clir ynglŷn â sut i reoli’r sefydliad? Nawr, nid wyf yn gwybod yr atebion i’r cwestiynau hyn, ond mae’r saga wedi bod yn mynd rhagddi ers cymaint o amser fel fy mod yn credu y dylai rhywbeth tebyg i’r stori lawn gael ei hadrodd yn awr neu o leiaf, cyn belled ag y gellir ei hadrodd. Rwy’n siomedig na fyddwch yn gwneud canfyddiadau’r adolygiad yn gyhoeddus, er fy mod yn sylweddoli y gall fod yna faterion cyfrinachol sy’n rhaid rhoi cyfrif amdanynt. Ond o ystyried yr arian cyhoeddus sylweddol a fuddsoddwyd yn Chwaraeon Cymru, rhaid inni sicrhau bod y Llywodraeth yn dysgu gwersi o’r gyfres anffodus hon o ddigwyddiadau. Felly, fy nghwestiwn olaf yw: pa wersi, Gweinidog, y credwch fod Llywodraeth Cymru wedi’u dysgu o hyn?
Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn amseru fy nghyhoeddiadau er hwylustod i Gareth Bennett neu unrhyw Aelod arall o’r Cynulliad; ac mae’n rhaid i mi ddweud nad oeddwn am i’r broses gymryd mwy o amser nag oedd yn rhaid iddi, ac nid oeddwn eisiau iddi lusgo ymlaen er lles yr holl bobl sydd ynghlwm wrth y mater hefyd.
Fe awgrymoch fod hon yn stori newyddion drwg, ond mewn gwirionedd, credaf fod angen i ni ystyried y ffaith fod yna gymaint o straeon newyddion da ym mhob rhan o Gymru, diolch i’r gwaith da y mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud yn trawsnewid bywydau pobl drwy rym chwaraeon. Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd, ond ni ddylem golli golwg ar hynny hefyd.
Nid wyf yn bwriadu ateb cwestiynau am rinweddau unrhyw unigolion, ond carwn ddweud bod buddiannau Chwaraeon Cymru wedi bod yn bwysig i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd bob amser, ac mae’r ddau wedi dangos cryn egni ac ymroddiad yn ystod y cyfnod o amser. Fodd bynnag, rwy’n ystyried yr angen i sicrhau arweinyddiaeth ffres. Fy nod cyffredinol, bob cam o’r ffordd, yw effeithiolrwydd Chwaraeon Cymru.
Mae gennyf un cwestiwn penodol am lywodraethiant presennol Chwaraeon Cymru. Nid wyf yn ei olygu fel beirniadaeth o’r unigolyn dan sylw, sydd wedi bod yn gydweithiwr i mi yn y gorffennol, ac rwy’n ei barchu’n fawr iawn, ond rwy’n pryderu bod gennym gorff cyhoeddus erbyn hyn sydd â chadeirydd dros dro, ond mae’r cadeirydd dros dro hwn mewn gwirionedd yn mynd i fod wrthi—yn eich datganiad ysgrifenedig—am weddill y flwyddyn hon fan lleiaf. Nawr, nid yw hynny’n unol ag arfer gorau o ran penodi’r cadeiryddion, egwyddorion Nolan a phenodiadau a safonau mewn bywyd cyhoeddus. Rwy’n awgrymu nad yw’n iawn fod gan gorff cyhoeddus sy’n dosbarthu £20 miliwn o arian cyhoeddus bob blwyddyn gadeirydd nad yw wedi mynd ac nad yw wedi’i benodi drwy’r broses honno. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi a’r Siambr a chyrff allanol y byddwch yn penodi cadeirydd ar gyfer Chwaraeon Cymru drwy’r broses reolaidd cyn gynted ag y bo modd?
Gallaf gadarnhau y byddaf yn sicr yn defnyddio’r broses reolaidd ar gyfer penodi cadeirydd ar gyfer Chwaraeon Cymru. Rwy’n credu ei bod yn bwysig yn awr, fodd bynnag, fod y sefydliad yn cael cyfnod o sefydlogrwydd. Dylwn hefyd ddweud fy mod yn bwriadu defnyddio fy mhŵer o dan y cod ymarfer ar gyfer penodiadau cyhoeddus i benodi cadeirydd dros dro heb gystadleuaeth tra bydd ymgyrch recriwtio ar waith i lenwi’r rôl honno. Mae’n ofyniad i ymgynghori â’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus cyn i’r penodiad gael ei gyhoeddi; felly, cyhoeddir enw’r unigolyn cyn gynted ag y daw’r broses ymgynghori i ben.
Diolch i’r Gweinidog.