Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 29 Mawrth 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb a ddaeth i law yn galw am raglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ofari. Cafodd y ddeiseb yma ei threfnu gan Margaret Hutcheson, ac fe’i cefnogwyd gan 104 o bobl. Cafodd Ms Hutcheson, nyrs gofal lliniarol wedi ymddeol, ei hysbrydoli i gychwyn y ddeiseb ar ôl i sawl un o’i ffrindiau gael diagnosis o ganser yr ofari. Ei phrif bryder oedd gwella diagnosis a thriniaeth amserol ar gyfer y clefyd dychrynllyd hwn. Ei phrif uchelgeisiau ar gyfer y ddeiseb oedd gweld rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ofari, a mwy o ymwybyddiaeth o ganser yr ofari a’i symptomau ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol a’r cyhoedd yn gyffredinol. Fel pwyllgor, cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth lafar gyda’r deisebwr, y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, ac ysgrifennwyd hefyd at elusennau canser i ofyn am eu barn. Fel pwyllgor, rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Cancer Research UK, Ovarian Cancer Action, a Target Ovarian Cancer, sydd wedi rhoi eu barn ar destun y ddeiseb.
Mae canser yr ofari yn arwain at oddeutu 240 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru—neu, mewn termau yr ydym yn eu deall, chwech ym mhob etholaeth—ac mae’n un o brif achosion marwolaeth ymhlith menywod yn y DU. Bydd un o bob 50 o fenywod yn cael canser yr ofari ar ryw adeg yn ystod eu bywydau ac yn drasig, bydd llai na hanner y menywod sy’n cael diagnosis o ganser yr ofari yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl cael y diagnosis. Roedd y dystiolaeth a gawsom hefyd yn dangos bod cyfraddau goroesi yn y DU yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Ewrop. Cafodd Margaret Hutcheson, y deisebydd, gwmni ei ffrind Jenny Chapman i ateb cwestiynau’r pwyllgor, a hoffwn gofnodi diolch diffuant y pwyllgor i’r ddwy ohonynt am ddod draw i roi eu safbwyntiau.
Mae’r holl safbwyntiau a glywsom yn cefnogi pwysigrwydd nodi symptomau canser yr ofari yn gynnar. Onid yw hynny’n swnio’n gyffredin ar gyfer pob canser? Mae diagnosis cynnar yn gwella’r gobaith o drechu’r clefyd yn llwyddiannus, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y mae angen i ni ei ddweud yn amlach. Clywsom fod cydberthynas agos rhwng diagnosis cynnar a’r rhagolygon i fenywod sy’n cael y diagnosis. Er nad yw hyn yn unigryw i ganser yr ofari, clywodd y pwyllgor y gall canser yr ofari fod yn arbennig o anodd gwneud diagnosis yn ei gylch. Y rheswm am hyn yw y gellir yn hawdd gamgymryd y symptomau cyffredin am gyflyrau eraill, neu nid oes unrhyw symptomau o gwbl. Am y rhesymau hyn, erbyn yr adeg y bydd y rhan fwyaf o fenywod â chanser yr ofari yn datblygu symptomau a’u canser yn cael ei ganfod, mae wedi lledaenu y tu allan i’r ofarïau ac yn llawer anos ei drin yn llwyddiannus.
Mae ffigyrau a gawsom gan Cancer Research UK yn dangos bod y gyfradd goroesi pum mlynedd ar gyfer canser yr ofari yng Nghymru a Lloegr yn 46 y cant, neu o’i roi mewn ffordd arall, mae 54 y cant yn marw o fewn pum mlynedd. Fodd bynnag, ymysg menywod sy’n cael diagnosis ar y cam cynharaf, mae’n codi i 90 y cant. Felly, mae dros draean yn fwy o fenywod sy’n cael diagnosis yn y cyfnod cynnar yn goroesi nag a fyddai pe baent yn aros nes y cam diweddarach. Credwn fod hyn yn gwneud achos argyhoeddiadol dros roi camau pellach ar waith i gynyddu nifer y menywod â chanser yr ofari sy’n cael diagnosis cynnar.
Roedd y ddeiseb hon yn galw’n bennaf am gyflwyno rhaglen sgrinio i ganfod canser yr ofari ar gam cynnar. Dadleuodd y deisebydd yn gryf y gallai hyn helpu i achub bywydau merched sy’n datblygu canser. Gwnaeth y deisebwr yr achos y dylai hyn gynnwys prawf gwaed blynyddol i fenywod gyda’r nod o ganfod canser yr ofari ar gam cynnar. Yn ei thystiolaeth i’r pwyllgor, awgrymodd Margaret Hutcheson y dylai’r rhaglen dargedu pob menyw dros 50 yn benodol. Nid yw sgrinio canser yr ofari ar gael ar y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd, nac yn unrhyw ran arall o’r DU.
Clywodd y pwyllgor fod astudiaethau i ddod o hyd i brawf sgrinio poblogaeth cyffredinol ar gyfer canser yr ofari yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Y mwyaf o’r rhain yw treial cydweithredol sgrinio canser yr ofari y DU sydd wedi bod ar waith ers 2001. Cyhoeddwyd y canfyddiadau ym mis Rhagfyr 2015. Roeddent yn dangos y gallai fod manteision o sgrinio drwy ddefnyddio profion gwaed, ond roedd y rhain yn amhendant ar y cyfan. O ganlyniad, mae’r astudiaeth wedi cael ei hymestyn am dair blynedd arall.
Yn ei thystiolaeth, amlinellodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd y broses lle y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyngor gan bwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU, sy’n cynghori pob Llywodraeth yn y DU. Gwelsom fod y pwyllgor sgrinio wedi adolygu ei argymhelliad yn ddiweddar ynglŷn â sgrinio ar gyfer canser yr ofari a’u hargymhelliad presennol o hyd yw na ddylid sgrinio’r boblogaeth ar hyn o bryd.
Clywsom bryderon hefyd ynglŷn â chywirdeb y prawf gwaed mwyaf cyffredin ar gyfer canser yr ofari, y prawf CA125. Mae menywod â chanser yr ofari yn tueddu i fod â lefelau uchel o’r protein CA125 yn eu gwaed—mwy na menywod heb ganser yr ofari. Ond gall y lefelau CA125 fod yn uwch am nifer o resymau nad ydynt yn ymwneud â chanser. Mae hyn yn golygu bod risg sylweddol o ganlyniadau positif anghywir. Clywsom ei bod yn bosibl mai 1 y cant yn unig o fenywod a atgyfeirir at ofal eilaidd yn dilyn prawf gwaed CA125 a fyddai â chanser yr ofari mewn gwirionedd, ac rwy’n meddwl mai un o’r pethau a deimlem oedd nad ydym am i bobl ofni rhywbeth pan fo’r posibilrwydd eu bod yn dioddef ohono mor isel â hynny. Felly, mae’r gwaith ymchwil ar hyn o bryd yn dangos nad yw’r prawf yn ddigon cywir i gael ei ddefnyddio fel rhan o raglen sgrinio.
Ar ôl ystyried yn ofalus yr ystod o dystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor, ar y cyfan, rydym yn derbyn nad yw’r dystiolaeth bresennol yn cefnogi cyflwyno rhaglen sgrinio poblogaeth. Fodd bynnag, o ystyried bod yr astudiaeth yn dal i fod ar y gweill ac y bydd yn adrodd ar ganfyddiadau pellach yn y blynyddoedd i ddod, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gadw llygad agos ar y sefyllfa a rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw dystiolaeth mewn perthynas â rhaglen sgrinio genedlaethol newydd. O ystyried bod diagnosis cynnar mor bwysig mewn achosion o ganser yr ofari, gallai rhaglen sgrinio effeithiol chwarae rôl hanfodol yn gwella cyfraddau goroesi, ac rwy’n falch fod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Fel y nodwyd yn gynharach, er nad ydym yn gallu cefnogi rhaglen sgrinio genedlaethol, rydym yn teimlo fel pwyllgor fod mesurau eraill a gymerir i wella camau i nodi canser yr ofari yn gynnar—. Trof yn awr at y rheini.
Yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari oedd thema ganolog y dystiolaeth a gawsom. Mynegodd y deisebwr bryder fod ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cyflwr yn isel iawn a disgrifiodd ganser yr ofari fel ‘llofrudd tawel’. Clywsom fod taflen ar ganser yr ofari, gan gynnwys symptomau cyffredin y clefyd, ar gael drwy feddygfeydd meddygon teulu, a chynhaliodd Ymddiriedolaeth GIG Felindre ymgyrch ymwybyddiaeth drwy gydol mis Mawrth 2016. Fel rhan o hyn, cynhyrchwyd pecynnau gwybodaeth ar gyfer meddygon teulu gan elusen Target Ovarian Cancer. Rydym yn croesawu’r camau hyn a’r ymdrechion a wnaed i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari a’r symptomau cyffredin.
Serch hynny, teimlwn y gellid ac y dylid gwneud mwy i sicrhau bod mwy o fenywod yn ymwybodol o’r clefyd. Mae adeiladu ymwybyddiaeth yn allweddol, oherwydd, pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono ac yn dod yn ymwybodol o symptomau, yna mae mwy o obaith y byddant yn mynd i weld eu meddyg teulu a chael eu hatgyfeirio. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari, gan gynnwys y symptomau cyffredin a phryd y dylai pobl ofyn am gyngor meddygol. Byddem yn hoffi gweld hyn yn adeiladu ar waith blaenorol ac yn rhedeg dros gyfnod estynedig.
Rwy’n cydnabod bod gwerth mewn codi proffil cyhoeddus nifer fawr o gyflyrau a chlefydau. Fodd bynnag, cawsom ein hargyhoeddi gan y dystiolaeth a gawsom y dylai fod ffocws ar ganser yr ofari yn benodol oherwydd pwysigrwydd hanfodol canfod y clefyd ar y cam cynharaf posibl. Câi hyn ei gefnogi’n gryf gan y deisebydd a chan yr elusennau y cysylltwyd â hwy. Er enghraifft, dywedodd Ovarian Cancer Action wrthym:
Byddai’n well gwario arian ar hyn o bryd ar ymgyrch gyhoeddus genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o’r symptomau.
Rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn fod y Gweinidog wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Rwy’n gobeithio yn ateb y Gweinidog y bydd yn gallu egluro sut y bydd ymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yn gyffredinol yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser yn cael yr effaith a ddymunir o godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari.
Mae ein hargymhelliad olaf yn ymwneud ag ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol o ganser yr ofari. Mae’n hanfodol i bob menyw allu cael profion a diagnosis amserol pan fydd canser yr ofari yn bosibilrwydd. Rhaid i fenywod sy’n mynd at y meddyg gyda symptomau canser yr ofari allu cael mynediad at y profion diagnostig priodol yn gyflym fel bod y driniaeth orau sy’n bosibl ar gael iddynt. Roedd y dystiolaeth a ddaeth i law yn glir ynglŷn â phwysigrwydd ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn benodol, mae’n hanfodol fod meddygon teulu—y person cyntaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei weld pan fyddant yn cael symptomau sy’n eu gwneud yn sâl—yn gyson yn gallu adnabod symptomau canser yr ofari a chyfeirio pobl i gael profion diagnostig yn briodol. Yr hyn nad ydym ei eisiau yw meddygon teulu nad ydynt yn gwybod am y peth, yn eu hanfon yn ôl a dweud wrthynt ddod yn ôl ymhen tri mis os nad ydynt wedi gwella, oherwydd bydd hynny’n golygu bod yr amser y mae’n rhaid iddynt aros i gael eu trin yn cynyddu a bydd eu gobaith o oroesi’n lleihau.
Roeddem yn falch o glywed bod gwaith diweddar wedi cael ei wneud mewn perthynas ag ymwybyddiaeth meddygon teulu yng Nghymru, a siaradodd y Gweinidog am ei bwriad i barhau i wella dealltwriaeth o symptomau a diagnosis cynnar o ganser yr ofari gan glinigwyr. Nododd y pwyllgor fod hyn eisoes yn faes â blaenoriaeth yng nghontractau meddygon teulu a’i bod yn ofynnol i feddygon teulu adolygu pob achos o ganser yr ofari a ganfuwyd yn 2015 er mwyn helpu i ddysgu gwersi o ran diagnosis ac atgyfeirio.
Rydym yn argymell bod y Llywodraeth yn parhau â’r gwaith hwn ac yn cynorthwyo arweinwyr canser gofal sylfaenol i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r adolygiad hwn i lywio cynlluniau ym mhob bwrdd iechyd gyda’r nod o wella diagnosis cynnar. Rwy’n falch iawn fod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw.
I gloi, Llywydd, hoffwn ailadrodd bod y pwyllgor yn cefnogi’r ysgogiad sy’n sail i’r ddeiseb. Er nad yw’r dystiolaeth yn cefnogi’r alwad am sgrinio cenedlaethol i bob menyw ar hyn o bryd, credwn fod yna dystiolaeth gref o bwysigrwydd ceisio datblygu mwy o ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ymysg y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Rwy’n gobeithio y bydd ein hadroddiad a’r drafodaeth y prynhawn yma yn helpu i gyfrannu mewn rhyw ffordd fach tuag at hyn.
Yn olaf, hoffwn gofnodi diolch y pwyllgor i Margaret Hutcheson am ddefnyddio’r broses ddeisebu i ddod â’r mater i sylw’r Cynulliad, ac am ei gwaith caled a’i brwdfrydedd drwy gydol y broses. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau’r pwyllgor ac i’r staff a fu’n helpu wrth i ni ystyried y ddeiseb a chynhyrchu ein hadroddiad. Os caiff un fenyw ddiagnosis digon cynnar i achub ei bywyd, bydd wedi bod yn werth chweil.