Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 29 Mawrth 2017.
Mae’n amserol ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, wrth i Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari ar gyfer eleni dynnu at ei derfyn. Yn wir, fel y mae eraill wedi dweud, mae codi ymwybyddiaeth yn gwbl allweddol ar gyfer mynd i’r afael â chanser gynaecolegol mwyaf marwol y DU. Hefyd, rwyf am ddiolch i’r deisebydd, Margaret Hutcheson. Er na fydd yr argymhellion yn cyflawni’n llawn yr hyn yr oedd yn gofyn amdano i gychwyn, o bosibl, rwy’n credu na ellir bychanu’r ffaith fod ei gweithred wedi sicrhau bod y mater ar agenda’r Cynulliad heddiw. Am gam sylweddol ymlaen yw hynny o ran codi ymwybyddiaeth a’n galluogi i gamu ymlaen a siarad am symptomau canser yr ofari.
Yn fy nadl 90 eiliad ar y mater hwn wythnos neu ddwy yn ôl, soniais ynglŷn â sut y bydd y rhan fwyaf ohonom yma yn adnabod rhywun sydd wedi cael y canser hwn, neu sydd â ffrind neu aelod o’r teulu, ac mae hynny’n wir yn fy achos i. Felly, nid yn unig y mae mynd i’r afael â chanser yr ofari yn flaenoriaeth i mi fel gwleidydd ond mae’n flaenoriaeth wedi’i gyrru gan brofiad personol. Y ffordd orau y gallwn weithio gyda’n gilydd heddiw i drechu canser yr ofari yw bod yn ymwybodol o’r ffeithiau, bod yn ymwybodol o’r symptomau a bod yn ymwybodol o hanes eich teulu eich hun.
Yn wir, mae un o bob pedair menyw yn credu bod cael prawf ceg y groth yn golygu eu bod wedi cael prawf am bob canser gynaecolegol. Er ein bod yn gwybod bod profion ceg y groth yn bwysig ac na ddylid eu hofni ac yn sicr ni ddylid eu colli, mae’n bwysig cydnabod nad ydynt yn canfod canser yr ofari.
Ar hyn o bryd, y ffordd orau o hyd o ganfod canser yr ofari yw i fenywod ac ymarferwyr iechyd fel ei gilydd, fel y mae eraill wedi dweud, wybod a gweithredu ar brif symptomau’r canser hwn. Ar yr olaf, mae’n hanfodol fod gan feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill well dealltwriaeth o symptomau canser yr ofari, er mwyn cynyddu’r gobaith o’i ganfod yn gynnar.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, gwneir diagnosis anghywir o’r symptomau’n aml ar y pwynt cyswllt cyntaf fel pethau fel syndrom coluddyn llidus neu bethau sy’n gysylltiedig â’r menopos. Yn achos fy mam, credid yn wreiddiol fod ganddi gerrig bustl. Daeth rhai o’r symptomau a ddaethai’n amlwg yn flaenorol yn llythrennol gronig dros nos fwy neu lai. Aeth at y meddyg teulu ym mis Mawrth ac er nad oedd yn ddiagnosis hawdd, cafodd lawdriniaeth ym mis Mehefin. Yr allwedd i hynny yw ymwybyddiaeth o symptomau ac i fenywod sy’n mynd at y meddyg allu dweud, ‘A dweud y gwir, rwy’n poeni y gallai fod hyn’, a gallu teimlo’n hyderus y bydd y meddyg yn gwneud yr asesiad hwnnw i gael diagnosis cynnar.
Byddai’n esgeulus ohonof i beidio â dweud heddiw fy mod yn fythol ddiolchgar, fel y mae fy nheulu, i’r GIG gwych a’r tîm anhygoel o arbenigwyr yng ngogledd Cymru, gan gynnwys yr oncolegydd a ddywedodd wrth fy mam, ‘Er bod y canser yn ymosodol, rydym yn mynd i fwrw ymlaen â hyn’. Roedd hyn yn 2009 a chyn hynny, roedd hi wedi cael canser y fron yn 2005.
Mae’n debyg y dylwn nodi ar y pwynt hwn fod fy mam yn rhan o’r grŵp dethol hwnnw, gawn ni ddweud, o wylwyr brwd Senedd.tv—gobeithio ei bod hi’n gwylio heddiw. Ond mae’n debygol na fydd yn gwneud sylwadau ar gynnwys fy nghyfraniad, mae’n fwy na thebyg y bydd hi’n dweud wrth ei iPad fy mod yn siarad yn rhy gyflym neu’n gwylio i weld a wyf wedi bachu un o’i heitemau o emwaith eto.