Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 29 Mawrth 2017.
A gaf i ddiolch i Margaret Hutcheson am gyflwyno’r ddeiseb bwysig iawn yma? Mi ddarllenais i’r adroddiad efo diddordeb mawr a hefyd cryn fraw, achos mi oedd y ddeiseb ei hun yn nodi’r effaith syfrdanol y mae canser yr ofari wedi’i gael. Rydym ni wedi clywed rhai o’r ffigyrau yn barod: yn 2014, 345 o ferched yn cael diagnosis, a 238 o ferched yn marw o’r clefyd yma. Mae’n ganran sydd yn methu â goroesi yn frawychus o uchel, hefyd. Felly, rydw i’n meddwl ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen mynd i’r afael â’r sefyllfa, newid y sefyllfa fel y mae, ac mae angen i fwy o bobl allu goroesi’r clefyd creulon yma. Mae gennym ni gyfraddau goroesi is na llefydd eraill, sy’n dangos y dylem ni fod yn dysgu gan eraill hefyd.
Mae’r ddeiseb yn galw am gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol, ac mae’r adroddiad gan y pwyllgor yn nodi efallai nad dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o wella diagnosis a’i ganfod yn gynnar ar hyn o bryd. Felly, hyd nes y byddwn ni yn cael prawf mwy cywir, rydw i’n credu y dylem ni ganolbwyntio ar ffyrdd eraill o gael diagnosis cynnar, tra, ar yr un pryd, chwilio yn rhagweithiol am y dystiolaeth ddiweddaraf ar effeithlonrwydd sgrinio.
Y peth cyntaf hanfodol i’w wneud yn bendant ydy cynyddu ymwybyddiaeth o’r symptomau—hynny ydy, cynyddu ymwybyddiaeth o symptomau ymysg merched, ond hefyd ymhlith meddygon teulu. Mae cyfraddau ymwybyddiaeth cyffredinol yn dal i fod yn isel iawn, a dyna oedd argymhelliad 3 y pwyllgor. Yn ddigon rhyfedd, mae wedi cael ei wrthod gan y Llywodraeth. Nid ydw i cweit yn deall y rhesymau pam, os ydy’r Llywodraeth yn bwriadu gwneud hyn beth bynnag fel rhan o’i chynllun canser, fyddai’n gwrthod yr argymhelliad yma.
Rydw i’n meddwl bod yna bwynt diddorol i’w wneud yma hefyd am y gwrth-ddweud rhwng, ar y naill law, y negeseuon yr ydym ni’n eu rhoi yma am wneud yn siŵr bod pobl yn mynd at eu meddyg teulu yn ddigon cynnar, pam mae’r symptomau yn dod i’r amlwg, fel bod clefydau difrifol yn cael eu dal yn gynnar, a thriniaethau, felly, yn gallu bod yn fwy llwyddiannus, ac ar y llaw arall, y negeseuon am sut y dylech chi ond fynd i weld eich meddyg teulu os ydy pethau’n ddifrifol ac y dylech chi yn hytrach o bosibl fod yn edrych tuag at ddefnyddio fferyllfa, nyrs practis, neu hyd yn oed aros i weld sut mae pethau’n mynd.
Mae o’n gydbwysedd, rwy’n gwybod, rhwng meddygon teulu yn gorfod delio efo’r rheini sydd yn iawn ond sydd yn poeni, tra’n gwneud yn siŵr bod y rhai sydd ddim yn iach ond ddim yn poeni yn cael eu hannog i geisio sylw meddygol yn gynharach a chael gwell cyfle i oroesi.
Yr ail beth rydym ni i fod i’w wneud yn sicr ydy dod ag amseroedd aros am brofion diagnostig i lawr pan mae rhywun yn ddigon dewr i fynd at eu meddyg teulu. Unwaith eto, mae’r model rydym yn ei weld yn Denmarc o ganolfannau diagnostig amlddisgyblaethol yn werth edrych arno fel rhywbeth a allai gyfrannu at gynyddu capasiti er mwyn galluogi hyn i ddigwydd.
Felly, i gloi, fe wna i ailadrodd cymeradwyaeth galonnog Plaid Cymru o’r negeseuon yn yr adroddiad yma. Mae’n drueni nad yw pob un ohonom ni yn y Siambr yn gallu cytuno efo’r tri argymhelliad. Ond, fel y dywedais ar y dechrau, rwy’n falch bod hwn wedi cael ei gyflwyno gan Margaret Hutcheson fel trafodaeth i’r Pwyllgor Deisebau.