9. 7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Ysgolion Cyfrwng Cymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:56, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.]—gan yr aelodau anoddefgar o Blaid Cymru gyferbyn fy nhrechu; nid yw pob aelod o Blaid Cymru yn anoddefgar, ond mae rhai ohonynt, mae’n amlwg.

Cyfraniad Jonathan Edwards i’r ddadl oedd ymosod ar y Blaid Lafur, gan ddweud bod y Blaid Lafur yn Llanelli wedi cynnal ymgyrch gas, ymrannol yn erbyn cynlluniau’r cyngor lleol a arweinir gan Blaid Cymru. Rhagfarn sefydliadol wrth-Gymreig Llafur yn lleol yw’r rheswm pam y mae gwleidyddion dosbarth gweithiol fel ef, mae’n debyg, yn cael cartref naturiol bellach ym Mhlaid Cymru. Wrth gwrs, ni fyddaf yn oedi’r Cynulliad ymhellach â’r mathau hynny o sylwadau, yn enwedig y rhai sy’n ymosodol tuag at UKIP. Ond hoffwn ganmol Nia Griffith, sef yr AS Llafur dros Lanelli, am ei hymagwedd at y ddadl hon, oherwydd yn ei hymateb i ymgynghoriad y cyngor sir, mae hi wedi dweud—mae gennyf ei chyfraniad yma rhywle— y dylai pob plentyn yng Nghymru gael cyfle i gael mynediad at addysg ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae disgyblion yn Llangennech ar hyn o bryd yn cael y cyfle hwnnw drwy fynychu’r ffrwd Gymraeg. Byddai’n wrthgynhyrchiol i’r nod o gynyddu nifer y disgyblion sy’n gallu defnyddio’r iaith Gymraeg pe bai disgyblion wedyn yn dewis mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg oherwydd y newid hwn.

Felly, os mai canlyniad anhyblygrwydd polisi’r cyngor sir yw eich bod yn gyrru plant allan o ysgolion dwy ffrwd i mewn i addysg Saesneg yn unig, yna mae hynny mewn gwirionedd yn ein gwthio’n ôl. Nid yw’n mynd â ni ymlaen mewn gwirionedd. Felly, yr hyn rwy’n ceisio ei wneud yn ystod y ddadl hon heddiw yw dangos y ffordd ymlaen y byddwn, yn wir, yn gwneud cynnydd aruthrol drwy weithredu polisi’r Llywodraeth, a lle y gall cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg wneud hynny, ond os oes gennym frwydr yn Llangennech heddiw, nid yw’n ddim o gymharu â’r frwydr a fydd gennych pan fyddwch eisiau ceisio cyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd gyda llawer llai yn siarad Cymraeg na Sir Gaerfyrddin. Rwyf eisiau osgoi’r canlyniad hwnnw. [Torri ar draws.] Rwyf eisiau osgoi’r canlyniad hwnnw, a dyna pam rwy’n cefnogi’r egwyddorion sy’n cael eu mynegi yn y cynnig.

Gwelaf fod Lee Waters yma i wneud ei araith hun, rwy’n gobeithio, ond rwyf hefyd yn cymeradwyo yr hyn y mae wedi ei ddweud o’r blaen yn hyn o beth, fod angen i ni fod yn ofalus iawn o ran y ffordd yr ydym yn ymdrin â hyn. Roedd yn siarad am y Gweinidog pan ddywedodd,

Mae ef a minnau’n rhannu’r uchelgais i sicrhau bod pob unigolyn 16 oed yn gallu siarad Cymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol, ac yn parhau i’w defnyddio yn eu bywydau bob dydd. Ac rydym yn awyddus i gynnal yr ewyllys da a fu tuag at yr iaith Gymraeg.

Bydd yn drasiedi, ac yn wir yn drychineb, i’r polisi o sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 os ydym yn mabwysiadu ymagwedd ymwthiol, a chymeradwyaf ein cynnig i’r Cynulliad.