9. 7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Ysgolion Cyfrwng Cymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 6:05, 29 Mawrth 2017

Diolch, Llywydd. Rwy’n dilyn Darren Millar ac yn ategu’r hyn a ddywedodd e ac yn croesawu’r geiriau y mae wedi’u rhoi i’r ddadl yma—yn gadarnhaol, os caf i ddweud. Rydym ni wedi gweld y prynhawn yma pa mor gadarnhaol y mae arweinydd UKIP yn gallu bod i’n trafodion ni yn fan hyn. Mewn 10 munud o araith, ni soniodd am yr un polisi a fyddai’n arwain at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg—dim un polisi. Dim ond gwrthwynebu a dim ond, er gwaethaf ei eiriau gwenog, ceisio codi’r grachen unwaith eto mewn un gymuned benodol yn sir Gâr.

A gawn ni ddweud yn glir fod bod yn ddwyieithog yn cynnig llawer o fanteision gwybyddol, addysgol, cymdeithasol ac economaidd? Mae’r dystiolaeth ym mhob rhan o’r byd yn dangos hyn. Nid yw hi’n bwysig, a dweud y gwir, ym mha ddwy iaith rydych chi’n ddwyieithog—mae’r buddiannau’n estyn ar draws y cwricwlwm pan fydd gyda chi sgiliau dwyieithog. Mae’r un peth yn wir yn Sbaen, yng Nghanada, yn rhannau o Ffrainc ac yn sicr yn wir yma yng Nghymru. Felly, mae manteision addysgiadol i fod yn ddwyieithog. Mae’r Llywodraeth yn gweithio nid yn unig dros yr iaith Gymraeg wrth hyrwyddo’r polisi yma ond dros safonau uwch mewn addysg.

Yr unig ofid sydd gyda fi fan hyn yw nad ydym ni wedi gweld gan Lywodraeth Cymru yr hyn a addawyd pan wnaethom drafod y cynlluniau Cymraeg mewn addysg strategol y tro cyntaf, sef ymgyrch i hyrwyddo buddiannau addysg ddwyieithog. Bu rhywfaint o waith gan y Llywodraeth, ond nid oedd y fath o ymgyrch yr oeddwn i wedi gobeithio ei weld. Rwy’n gobeithio, wrth ymateb i’r ddadl, y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi rhywfaint yn fwy o fanylion i ni ar sut y mae’r Llywodraeth yn mynd i hyrwyddo addysg ddwyieithog o ran safonau addysgol yn ogystal ag o ran safonau ieithyddol pur.

A gawn ni fod yn glir, achos mae wedi cael ei gynnig sawl gwaith ac mae cyfle mewn dadl i’w roi ar gofnod, am y camau penodol a gymerwyd yn achos ysgol Llangennech? Felly, mae hyn i gyd yn deillio o gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Gâr, a oedd ar y pryd yn cael eu harwain gan y Blaid Lafur, pan wnaethon nhw gymeradwyo’r WESP nôl yn 2014. Wedi’i gynnwys yn y WESP yna oedd cyfeiriad ac ymrwymiad gan y cyngor sir, a oedd yn darllen fel a ganlyn:

Bod y Cyngor Sir yn cydweithio’n agos gyda staff a chyrff llywodraethol ysgolion dwy ffrwd Sir Gâr er mwyn eu troi yn ysgolion Cymraeg’.

Nawr, roedd tair ysgol dwy ffrwd yn sir Gâr ar y pryd, ac roedd ysgol Llangennech yn un ohonyn nhw. Felly, mae’r cyngor sir wedi cytuno i gydweithio’n agos â staff a chyrff llywodraethol. Pe baen nhw ddim wedi dilyn y camau yna, fe fyddwn i â rhywfaint o gydymdeimlad â byrdwn y ddadl heddiw. Ond, dyma’r camau a gymerwyd gan Gyngor Sir Gâr o dan y Blaid Lafur ac wedyn o dan Blaid Cymru. Pleidleisiwyd i gymeradwyo’r camau. So, cytunodd y cabinet—corff democrataidd sydd wedi’i sefydlu o dan ddeddfwriaeth—i wneud hynny. Fe bleidleisiodd Cyngor Cymuned Llangennech o blaid y cynllun ym mis Medi 2016. Ar 21 Tachwedd 2015, fe dderbyniodd y cynllun gefnogaeth gan y pwyllgor craffu addysg. So, mae’r cabinet yn cytuno ac mae pwyllgor craffu’r cyngor sir yn cytuno, ac mae’r cyngor cymuned yn cytuno.

Bu cefnogaeth gan gorff llywodraethol yr ysgol yn ogystal. Wedyn, yn y cyfarfod llawn o’r cyngor ar 22 Rhagfyr 2016, fe bleidleisiodd cabinet y cyngor o blaid y cynllun ac wedyn, ym mis Ionawr, y cyngor llawn—y cynllun penodol ynglŷn â Llangennech yw hyn. Felly, fe gymeradwywyd y cynllun WESP gan y cabinet, fe gymeradwywyd e gan y corff llywodraethol, gan y cyngor cymuned, gan y staff—roedd y mwyafrif llethol o staff wedi ei gymeradwyo. Fe aeth e’n ôl i gael ei gymeradwyo gan y pwyllgor craffu. Fe aeth yn ôl i’r cabinet i gael ei gymeradwyo. Fe aeth yn ôl i’r cyngor llawn i gael ei gymeradwyo.

Rwy’n mentro i ddweud bod y penderfyniad yma wedi cael mwy o ddogfennaeth yn ei gylch, a mwy o benderfyniadau democrataidd, na’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. [Chwerthin.] Dyna’r gwir plaen am y penderfyniad yn achos Llangennech. Fe benderfynodd, ar sail Deddf—rwy’n gwybod nad oedd UKIP yn rhan o’r Cynulliad pan basiwyd y Ddeddf yna, ond fe basiwyd Deddf gan y corff yma a oedd yn rhoi’r hawliau i wneud y penderfyniad yma yn nwylo’r cyngor lleol, gan ein bod ni’n credu mai penderfyniadau lleol yw’r rhain i’w cymryd gan y cyngor lleol yn ôl y camau neilltuol sydd wedi eu dilyn. Felly, nid oes lle i gwestiynu’r hawl na’r penderfyniad.

Mae lle, wrth gwrs, i gydweithio â’r gymuned yn lleol lawer yn fwy nag sydd wedi digwydd, efallai, o bryd i’w gilydd, ond mae’n rhaid inni gydio yn ysbryd y penderfyniad a gwneud yn siŵr ein bod ni’n dysgu o’r wers sydd yma—bod y Gweinidog yn dysgu, bod y Llywodraeth yn dysgu a bod pob cyngor lleol yn dysgu hefyd—i wneud yn siŵr nad oes dim camgymeriadau yn cael eu gwneud yn y dyfodol, ond, yn fwy pwysig na hynny, i wneud yn siŵr ein bod ni yn trin yr iaith Gymraeg fel rhywbeth sy’n parchu safonau addysg, sydd yn ein codi ni i gyd uwchben y ddadl a’r ffrae wleidyddol ac sy’n gwneud yn siŵr ein bod ni yn dadlau am yr iaith Gymraeg fan hyn, fel sydd angen ei wneud o bryd i’w gilydd, mewn ffordd sydd yn parchu’r iaith ac mewn ffordd sydd yn dangos bod yr iaith yn eiddo i ni i gyd.