Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 29 Mawrth 2017.
Diolch, Llywydd. Wel, rwy’n cymeradwyo popeth y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud yn ei araith y prynhawn yma, ac mae’r nodyn y daeth i ben ag ef yn hollol gywir; fod yn rhaid inni gael pobl i ddewis defnyddio’r Gymraeg. Ni ellir eu gorfodi i’w defnyddio os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Ac nid yw’r math o agweddau a welsom o’r ochr arall i’r llawr heddiw yn debygol o arwain at yr amcan hwnnw—