Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 4 Ebrill 2017.
Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i wella iechyd plant yng Nghymru. Roedd ‘Symud Cymru Ymlaen' yn cynnwys ymrwymiad i weithredu ein rhaglen Plentyn Iach Cymru, a lansiwyd fis Hydref diwethaf. Mae’r rhaglen honno’n cynnwys amrywiaeth o fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar i helpu rhieni a phlant i wneud dewisiadau ffordd o fyw iach.