2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Ebrill 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd plant yng Nghymru? OAQ(5)0555(FM)
Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i wella iechyd plant yng Nghymru. Roedd ‘Symud Cymru Ymlaen' yn cynnwys ymrwymiad i weithredu ein rhaglen Plentyn Iach Cymru, a lansiwyd fis Hydref diwethaf. Mae’r rhaglen honno’n cynnwys amrywiaeth o fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar i helpu rhieni a phlant i wneud dewisiadau ffordd o fyw iach.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roedd adroddiadau diweddar gan Brif Swyddog Meddygol Cymru a’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn cynnwys negeseuon cryf iawn am effaith tlodi ac anghydraddoldeb ar iechyd plant. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau i blant o gefndiroedd tlotach yng Nghymru, a pha sicrwydd allwch chi ei roi y bydd mynd i'r afael ag effaith tlodi ar iechyd plant yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon?
Yn sicr, mae'n flaenoriaeth i ni. O ran cau'r bwlch cyrhaeddiad yr ydym ni wedi ei weld, mae’r bwlch hwnnw wedi bod yn cau. Rydym ni wedi gweld, wrth gwrs, y grant amddifadedd disgyblion a'r ffordd y mae hwnnw wedi gweithio er budd cymaint o bobl ifanc. Rydym ni wedi gweld y cyfnod sylfaen a'r manteision y mae hwnnw’n ei roi i blant o ran datblygu sgiliau yn gynnar a fydd yn eu paratoi'n dda ar gyfer y dyfodol. Wrth gwrs, rydym ni bob amser yn edrych i weld sut y gallwn ni wella canlyniadau i blant yn y dyfodol, ac mae hynny’n cael ei ystyried ar draws y Llywodraeth ar hyn o bryd yn rhan o'n hymrwymiad i ffyniant i bawb.
A gaf innau hefyd gyfeirio at adroddiad Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yng Nghymru? Mae yna 39 o argymhellion yn fan hyn, a mi fyddai’r Prif Weinidog yn gwneud yn dda i ystyried yr adroddiad ac i fyfyrio ar yr argymhellion mewn rhyw fath o agenda i fynd â’r afael ag iechyd plant a phobl ifanc yng Nghymru. Ymhlith yr argymhellion, wrth gwrs—ac un maes allweddol yn y cyd-destun yma—mae’r risg ychwanegol i iechyd plentyn pan fydd person beichiog yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd. Rŷm ni’n gwybod am yr effaith y mae hynny’n ei chael mewn sawl ffordd ar ddatblygiad a thwf plentyn, gan gynnwys y risg o fod yn farw-anedig ac o gael ei eni o dan bwysau, ac yn y blaen. Nawr, mae yna ddata ar y niferoedd sydd yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn Lloegr ac yn yr Alban yn bodoli, ond, o safbwynt Cymru, nid yw’r data cystal, efallai, ag y dylent fod, oherwydd rŷm ni’n dibynnu ar famau beichiog i hunanadrodd, ‘self-report’, pan fydd hi’n dod i gasglu’r data yna. A gaf i ofyn, felly, pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i edrych ar yr angen i gasglu data mwy cyhyrog yn y maes yna, oherwydd sut allwn ni wybod beth sydd angen ei wneud os nad ŷm ni’n sicr beth yw maint y broblem?
Wel, rŷm ni yn datblygu cynllun iechyd plant newydd ar hyn o bryd. Bydd hwnnw’n edrych ar y blaenoriaethau y dylem ni a’r gwasanaeth iechyd eu dilyn y pen draw. Fel rhan o hynny, wrth gwrs, fe fydd hi’n hollbwysig i sicrhau bod y data sydd gyda ni yn ddata sy’n gadarn, a bydd hynny’n cael ei ystyried yn ystod datblygiad y cynllun hynny.
Prif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi mai un o'r ffyrdd o wella iechyd plant yw sicrhau mynediad priodol at nyrsys ysgol ledled Cymru? A wnaiff ef longyfarch y gweithlu nyrsys ysgol sydd gennym ni yma yng Nghymru sy'n gwneud gwaith rhagorol o ran imiwneiddio a negeseuon iechyd y cyhoedd yn ein hysgolion, ac, yn benodol, yr unigryw Judith Jerwood yn eich etholaeth eich hun, sy’n gweithio yn Ysgol Gyfun Bryntirion, lle mae ganddynt fodel nyrsio ysgol unigryw, y dylem, yn fy marn i, ei weld yn amlach mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru? Byddwch yn ymwybodol bod y gwasanaeth nyrsys ysgol yn un sy'n cael ei ddefnyddio gan yr ysgol ei hun, ac yn un sy'n rhoi cyngor ar bob math o bwnc, nid yn unig i'r disgyblion, ond hefyd i'r staff ac, yn wir, i’w teuluoedd.
Mae'n enghraifft dda iawn o arfer da. Rwyf bron yn gallu gweld yr ysgol o lle rwy’n byw; mae’n agos iawn, iawn i mi. Rydym ni’n gwybod bod y nyrsys ysgol yn gwneud gwaith rhagorol. Rydym ni’n gwybod, er enghraifft—mae’r Aelod yn sôn am imiwneiddio—bod ein cyfraddau imiwneiddio plant yn parhau i fod ar frig y meincnodau rhyngwladol. Rydym ni’n gwybod, yn 2016-17, bod y rhaglen imiwneiddio rhag ffliw yn ystod plentyndod wedi cael ei hymestyn hefyd i gynnwys yr holl blant dwy i saith oed. Mae'n fodel rhagorol sydd ar waith ym Mryntirion ac yn un y byddwn yn annog ysgolion eraill i’w ystyried.
Prif Weinidog, amlygodd adroddiad 2017 y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ‘State of Childe Health’, yr angen am fannau diogel i blant chwarae, er mwyn rhoi sylw i chwarter y boblogaeth plant yng Nghymru sy'n dechrau’r ysgol gynradd yn ordew. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at fannau agored a mannau chwarae, a pha gamau ydych chi’n eu cymryd i sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cynnig mannau diogel i blant chwarae?
Mewn datblygiadau tai newydd, byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol ddarparu’r mannau agored hynny—ac rwyf i wedi eu gweld, nid yn fy rhan fy hun o'r byd yn unig, ond ledled Cymru. Lle caiff tai newydd eu hadeiladu, ceir lle i blant chwarae, ceir cyfleusterau’n aml i blant chwarae arnynt hefyd, a llwybrau beicio, sy'n cael eu cynnwys yn gynyddol yn rhan o ddatblygiadau, fel y dylent. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn rhan o'r broses o sicrhau bod beicio yn cael ei ystyried fel rhywbeth hollol normal o ran y ddarpariaeth o gyfleusterau beicio mewn datblygiadau newydd yn y dyfodol. Mae hynny'n sicr yn llawer gwell na’r sefyllfa a oedd yn bodoli cynt, lle’r oedd datblygiadau tai yn cael eu hadeiladu ac nad oedd unrhyw ddarpariaeth yn cael ei gwneud o gwbl ar gyfer mannau agored nac, yn wir, ar gyfer cyfleusterau i blant chwarae.