<p>Iechyd Plant</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:41, 4 Ebrill 2017

A gaf innau hefyd gyfeirio at adroddiad Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yng Nghymru? Mae yna 39 o argymhellion yn fan hyn, a mi fyddai’r Prif Weinidog yn gwneud yn dda i ystyried yr adroddiad ac i fyfyrio ar yr argymhellion mewn rhyw fath o agenda i fynd â’r afael ag iechyd plant a phobl ifanc yng Nghymru. Ymhlith yr argymhellion, wrth gwrs—ac un maes allweddol yn y cyd-destun yma—mae’r risg ychwanegol i iechyd plentyn pan fydd person beichiog yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd. Rŷm ni’n gwybod am yr effaith y mae hynny’n ei chael mewn sawl ffordd ar ddatblygiad a thwf plentyn, gan gynnwys y risg o fod yn farw-anedig ac o gael ei eni o dan bwysau, ac yn y blaen. Nawr, mae yna ddata ar y niferoedd sydd yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn Lloegr ac yn yr Alban yn bodoli, ond, o safbwynt Cymru, nid yw’r data cystal, efallai, ag y dylent fod, oherwydd rŷm ni’n dibynnu ar famau beichiog i hunanadrodd, ‘self-report’, pan fydd hi’n dod i gasglu’r data yna. A gaf i ofyn, felly, pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i edrych ar yr angen i gasglu data mwy cyhyrog yn y maes yna, oherwydd sut allwn ni wybod beth sydd angen ei wneud os nad ŷm ni’n sicr beth yw maint y broblem?