Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 4 Ebrill 2017.
Prif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi mai un o'r ffyrdd o wella iechyd plant yw sicrhau mynediad priodol at nyrsys ysgol ledled Cymru? A wnaiff ef longyfarch y gweithlu nyrsys ysgol sydd gennym ni yma yng Nghymru sy'n gwneud gwaith rhagorol o ran imiwneiddio a negeseuon iechyd y cyhoedd yn ein hysgolion, ac, yn benodol, yr unigryw Judith Jerwood yn eich etholaeth eich hun, sy’n gweithio yn Ysgol Gyfun Bryntirion, lle mae ganddynt fodel nyrsio ysgol unigryw, y dylem, yn fy marn i, ei weld yn amlach mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru? Byddwch yn ymwybodol bod y gwasanaeth nyrsys ysgol yn un sy'n cael ei ddefnyddio gan yr ysgol ei hun, ac yn un sy'n rhoi cyngor ar bob math o bwnc, nid yn unig i'r disgyblion, ond hefyd i'r staff ac, yn wir, i’w teuluoedd.