<p>Iechyd Plant</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:44, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, amlygodd adroddiad 2017 y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ‘State of Childe Health’, yr angen am fannau diogel i blant chwarae, er mwyn rhoi sylw i chwarter y boblogaeth plant yng Nghymru sy'n dechrau’r ysgol gynradd yn ordew. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at fannau agored a mannau chwarae, a pha gamau ydych chi’n eu cymryd i sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cynnig mannau diogel i blant chwarae?