Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 4 Ebrill 2017.
Yr ateb i'r cwestiwn yw 'ydy'. Mae'r Llywodraeth wedi cymryd barn ar hyn. Mae'n gwbl eglur bod y sefydliad yn parhau i fod yn gamweithredol a bod y berthynas wedi chwalu’n llwyr rhwng y cadeirydd a'r bwrdd. O dan yr amgylchiadau hynny, ni ellid disgwyl i unrhyw sefydliad gyflawni'r hyn y dylai ei wneud yn y dyfodol. Rydym ni’n gwybod bod angen i bob sefydliad addasu i amgylchiadau sy'n newid ac mae’r adolygiad annibynnol o weithrediadau Chwaraeon Cymru yn parhau, ond roedd yn gwbl eglur na allai Chwaraeon Cymru barhau gyda'r camweithredu a oedd yn parhau yn y sefydliad a gwnaeth y Gweinidog y penderfyniad mai’r ffordd orau ymlaen oedd cymryd y cam a gymerwyd er mwyn gwneud yn siŵr bod Chwaraeon Cymru yn effeithiol yn y dyfodol.