2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 4 Ebrill 2017.
Galwaf nawr am gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prif Weinidog, pam wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu yr wythnos diwethaf diswyddo cadeirydd Chwaraeon Cymru o ystyried, wrth ei benodi, y dywedwyd wrth y cadeirydd newydd ar y pryd gan gynrychiolydd Llywodraeth Cymru ei fod yn mynd i mewn i amgylchedd gwenwynig ac mai ei gyfrifoldeb ef oedd rhoi sylw i sefydliad camweithredol ac ynysig? A yw eich holl Lywodraeth yn cytuno mai diswyddo’r cadeirydd hwn oedd y cerydd cywir?
Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud bod Chwaraeon Cymru yn wynebu anawsterau mawr? Mae cymaint â hynny’n wir. Ceir adolygiad annibynnol o Chwaraeon Cymru, sy'n parhau ar hyn o bryd, ond roedd yn gwbl eglur bod y berthynas rhwng y cadeirydd a'r bwrdd a'r is-gadeirydd ar chwâl, ac felly bu’n rhaid cymryd camau fel y gellid ailadeiladu’r sefydliad.
Dywedir wrthyf fod yr adolygiad wedi ei gwblhau, Prif Weinidog, ac, ar 13 Chwefror, diystyrwyd yr holl honiadau a wnaed yn erbyn y cadeirydd ar y pryd gan ddirprwy ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cymru, James Price, a chynigiwyd tri dewis iddo symud y sefyllfa yn ei blaen, pob un ohonynt yn arwain at iddo barhau ei gyfranogiad ar ryw ffurf o fewn Chwaraeon Cymru. Beth ddigwyddodd yn y cyfamser byr iawn, a newidiodd y sefyllfa hon ac a arweiniodd at ddiswyddo Paul Thomas?
Wel, fel sy’n hysbys, gwnaeth y Gweinidog ddatganiad i Aelodau'r Cynulliad ar 14 Chwefror ar brif ganfyddiadau’r adolygiad. Un o'r canfyddiadau hynny oedd bod gwrthdaro rhwng diwylliannau wedi datblygu rhwng y cadeirydd ac aelodau eraill y bwrdd. Roedd yn amlwg bod angen gweithredu er mwyn i'r bwrdd i fod yn gwbl weithredol yn y dyfodol.
Mae gen i'r llythyr yn y fan yma—mae ar gael yn gyhoeddus, felly gallwch wneud sylwadau arno—a anfonwyd at James Price ddechrau mis Mawrth sy'n rhestru'n eglur yr honiadau a wnaed yn erbyn y cadeirydd a sut y gwrthodwyd y cyhuddiadau hynny. Ceir rhai honiadau difrifol iawn a wnaed yn erbyn y cadeirydd blaenorol a phrif weithredwr presennol Chwaraeon Cymru hefyd. Mae Chwaraeon Cymru yn ymdrin â swm sylweddol o arian cyhoeddus ac mae ganddo gylch gwaith i wella chwaraeon elît a chwaraeon cyfranogol ledled Cymru.
Byddai gennyf ddiddordeb clywed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â'r honiadau ac yn ymchwilio i'r honiadau yn erbyn y cadeirydd blaenorol, a’r prif weithredwr presennol hefyd, gan fod yr honiadau yn haeddu atebion, ac yn anad dim i wneud yn siŵr bod Chwaraeon Cymru yn gallu bwrw ymlaen â'i swyddogaethau o ddydd i ddydd. Ond rwy’n ailadrodd: dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y cadeirydd newydd, Paul Thomas, pan ddechreuodd yn ei swydd, ei fod yn mynd i mewn i amgylchedd gwenwynig ac mai ei gyfrifoldeb ef oedd mynd i'r afael â sefydliad camweithredol ac ynysig. Gofynnaf unwaith eto: a yw’r Llywodraeth gyfan yn cytuno â diswyddiad Paul Thomas?
Yr ateb i'r cwestiwn yw 'ydy'. Mae'r Llywodraeth wedi cymryd barn ar hyn. Mae'n gwbl eglur bod y sefydliad yn parhau i fod yn gamweithredol a bod y berthynas wedi chwalu’n llwyr rhwng y cadeirydd a'r bwrdd. O dan yr amgylchiadau hynny, ni ellid disgwyl i unrhyw sefydliad gyflawni'r hyn y dylai ei wneud yn y dyfodol. Rydym ni’n gwybod bod angen i bob sefydliad addasu i amgylchiadau sy'n newid ac mae’r adolygiad annibynnol o weithrediadau Chwaraeon Cymru yn parhau, ond roedd yn gwbl eglur na allai Chwaraeon Cymru barhau gyda'r camweithredu a oedd yn parhau yn y sefydliad a gwnaeth y Gweinidog y penderfyniad mai’r ffordd orau ymlaen oedd cymryd y cam a gymerwyd er mwyn gwneud yn siŵr bod Chwaraeon Cymru yn effeithiol yn y dyfodol.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, mae'r toriadau i swyddi a gynigir ym Mhrifysgol De Cymru yn peri pryder mawr, ac rwy'n siŵr eich bod chi’n rhannu'r pryder hwnnw. Y bwriad yw torri 139 o swyddi i ymdopi â chostau cynyddol a heriau amrywiol eraill. Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ystyried lleihau ei gweithlu hefyd. Hoffwn roi ar y cofnod fy nghefnogaeth i a Phlaid Cymru i’r swyddogaethau y mae’r ddau sefydliad hynny yn eu cyflawni yn ein cymdeithas. Ond rwy’n pryderu am y sefyllfa y mae’r sefydliadau hynny’n ei hwynebu ac am y posibilrwydd o golli’r hyn sy’n swyddi â chyflogau da. Pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cynnal ers cynnig y ddwy gyfres o ddiswyddiadau? A rannwyd strategaethau'r prifysgolion gyda chi ac a ydych chi’n fodlon â’r esboniadau y maen nhw wedi eu rhoi am y newidiadau hyn?
Nid wyf wedi gweld unrhyw esboniadau am y newidiadau hyn ar hyn o bryd. Rwy’n ymwybodol o'r sefyllfa, fodd bynnag, yn y sefydliadau hynny. Rydym ni’n disgwyl y bydd cyfnod o ymgynghori ac y bydd staff a'r undebau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar bob cam yn y broses. Un o'r materion sy'n peri pryder i mi yw ein bod ni’n gweld gostyngiad i geisiadau, yn enwedig gan fyfyrwyr o dramor. Rydym ni’n gwybod bod ceisiadau trwy UCAS i brifysgolion Cymru o wledydd yr UE, er enghraifft, wedi gostwng 8 y cant rhwng 2016 ac 2017. Po leiaf y myfyrwyr sydd yno, y lleiaf o arian sydd ar gael a’r lleiaf o arian sydd yno i dalu staff, ac mae hynny’n peri pryder i mi.
Fel cyn-fyfyriwr yn Nhrefforest, gwn pa mor bwysig yw’r sefydliad hwn i’r Cymoedd. Mae wedi chwarae rhan flaenllaw erioed o ran gwella sgiliau pobl i wneud y gwaith sydd angen ei wneud yn ein heconomïau lleol. Nawr, ceir heriau demograffig, yr ydych chi wedi cyfeirio atynt, a chostau cynyddol sy'n wynebu’r brifysgol honno, ond nid wyf yn credu y dylai hynny olygu y dylem ni golli'r effaith economaidd gadarnhaol y mae’r sefydliad yn ei chreu. Mae Plaid Cymru hefyd yn credu bod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn chwarae rhan hanfodol yn y gorllewin hefyd. Mae'r cynigion yn golygu gostyngiad o 4.6 y cant i staff ym Mhrifysgol De Cymru ac nid yw’r ffigur ar gyfer y Drindod Dewi Sant wedi ei gadarnhau eto. Rwyf wedi cael gwybodaeth anghyson ar y colledion swydd hyn. Ar y naill law, dywedwyd wrthym mai swyddi rheolwyr fydd llawer o'r rhai sydd mewn perygl, ond rwyf wedi clywed gan yr undeb llafur y gallai’r swyddi i’w torri gynnwys swyddi TG, staff llyfrgell a gwasanaethau myfyrwyr hefyd. A ydych chi’n meddwl, Brif Weinidog, fod y colledion swyddi hyn yn waith cadw tŷ arferol neu a ydynt yn arwydd bod y ddwy brifysgol hyn yn wynebu dyfodol anodd?
Nid wyf wedi gweld unrhyw beth ar y raddfa hon ers i mi fod yn y brifysgol fy hun yn y 1980au, ac mae hynny’n peri pryder. Mae hefyd yn gywir i ddweud nad yw'n gwbl eglur pa fathau o swyddi fyddai’n cael eu colli. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n disgwyl cael y cyfnod hwnnw o ymgynghori, fel bod mwy o eglurder gan y ddau sefydliad am yr hyn y maen nhw’n ei gynnig. Ond rwy’n pryderu—nid wyf yn gwybod a yw hyn yn gywir ai peidio, ond mae'r ffigurau gen i o fy mlaen—pa un a yw’r gostyngiad yn nifer y ceisiadau, nid yn unig o wledydd yr UE, ond o wledydd eraill hefyd, yn cael effaith ar incwm y prifysgolion hynny, a fyddai, o'n safbwynt ni, fel gwlad sy'n croesawu myfyrwyr, yn rhywbeth i’w resynu’n fawr.
Mae'r ddau sefydliad yn dioddef hefyd yn sgil y penderfyniad a wnaed i godi'r cap derbyniadau prifysgol yn Lloegr. Gwyddom fod y sefyllfa o ran recriwtio myfyrwyr Ewropeaidd a rhyngwladol yn dal i fod yn anwadal ac yn debygol o fod am gryn amser, ond ein cyfrifoldeb ni yw llywio drwy’r dyfroedd anodd hyn yma yng Nghymru, a chi, Prif Weinidog, sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am ddiogelu ein sector addysg uwch. Felly, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ein prifysgolion? Sut gwnewch chi helpu i ddiogelu’r swyddi hyn a sicrhau nad oes unrhyw effaith yn y tymor hwy ar gyrsiau? A ydych chi’n bwriadu parhau ar sail busnes fel arfer neu a ydych chi'n mynd i gamu i mewn a rhoi cymorth ac arweiniad i brifysgolion Cymru fel y gallant barhau i wneud y gwaith da y maen nhw’n ei wneud, yn gwasanaethu ein heconomi a'n gwlad?
Rydym ni wedi darparu mwy o arian ar gyfer addysg uwch, ond mae'n ymwneud â mwy na hynny. Mae'n ymwneud â sicrhau bod Cymru'n dal i gael ei hystyried fel man lle mae myfyrwyr o dramor eisiau dod. Mae hwnnw'n bwynt yr wyf i wedi bod yn ei wneud yn gryf iawn pryd bynnag yr wyf i wedi mynd dramor ac, yn wir, pan fydd llysgenhadon wedi dod i ymweld â ni yma yng Nghymru. Mae hynny'n hynod bwysig. Rydym ni hefyd yn ariannu cynlluniau, er enghraifft, fel Sêr Cymru. Mae Sêr Cymru yn ffordd o ddod â’r academyddion blaenllaw i Gymru, gan ddenu, wedyn, y myfyrwyr gorau hefyd. Mae hynny’n helpu gyda chynaliadwyedd prifysgolion. Mae rhai prifysgolion eu hunain wedi buddsoddi'n drwm mewn rhaglenni cyfalaf i wella, neu yn wir adeiladu campysau newydd, sydd unwaith eto’n hynod bwysig o ran denu myfyrwyr yno. Ond yr hyn nad ydym yn ei wybod ar hyn o bryd yw pa effaith y bydd Brexit yn ei chael—rydym ni wedi gweld rhai ffigurau eisoes ar fyfyrwyr o'r UE sy'n gwneud cais i brifysgolion Cymru ac, wrth gwrs, myfyrwyr o wledydd eraill fel India, lle bu gostyngiad sylweddol o ran niferoedd dros y blynyddoedd diwethaf—a pha effaith gaiff hynny ar gynaliadwyedd ein prifysgolion. Mae hynny'n rhywbeth sydd eto i’w weld yn llawn o ran yr effaith.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n anochel, mae’n debyg, bod hyn a hyn o smalio yn digwydd ar ddechrau unrhyw negodi ac nid yw’r trafodaethau Brexit presennol gyda'r UE yn eithriad i hynny. Mae’r Prif Weinidog eisiau chwarae rhan uniongyrchol yn y trafodaethau hyn ac mae, a dweud y gwir, rhan ddefnyddiol y gall ei chwarae. Gallai ysgrifennu at Ganghellor Merkel, er enghraifft, i ddweud ei fod yn gamgymeriad ar eu rhan nhw i ddatgysylltu’r trafodaethau masnach oddi wrth y materion eraill nad ydynt wedi'u penderfynu, fel hawliau dinasyddion yr UE yn y wlad hon ac i’r gwrthwyneb, a hefyd y cwestiwn o'r gwaddol y mae’n debyg bod yr UE eisiau i drethdalwyr Prydain ei dalu, a allai fod cymaint â £60 biliwn, sydd braidd yn hy o ystyried ein bod ni wedi talu £500 biliwn iddyn nhw dros y 40 mlynedd diwethaf.
Yn ail, ceir y datblygiad arall o ran Sbaen a Gibraltar, lle mae'n ymddangos bod yr UE yn ceisio defnyddio Gibraltar fel dull bargeinio i geisio cael gwell cytundeb gennym ni. O gofio bod y cwestiwn o sofraniaeth yn Gibraltar wedi cael ei setlo’n bendant gan y refferendwm, lle pleidleisiodd bron pob un o drigolion Gibraltar i gadw ei chysylltiadau â Phrydain, a wnaiff ef ysgrifennu at Brif Weinidog Sbaen a hefyd at Brif Weinidog Gibraltar i gefnogi hawl trigolion Gibraltar i hunan benderfyniad, sydd wedi ei warantu gan erthygl 1 siarter y Cenhedloedd Unedig?
Wel, yn gyntaf, mae'n iawn i ddweud bod llawer o smalio, mae cymaint â hynny’n wir, a cheir problemau y mae angen eu datrys. Ond y peth pwysig yw trafod y dechrau cyn gynted â phosibl a bod dyfodol dinasyddion yr UE ym mhob rhan o’r DU a dinasyddion y DU yn yr UE yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl. Rwy’n meddwl y bu cryn dipyn o adrodd gorffwyll ar rai o'r materion hyn. Dywedwyd bod y DU yn defnyddio amddiffyn a diogelwch fel dulliau bargeinio. Nid dyna'r ffordd y dehonglais i sylwadau Prif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf, a bod yn deg. Dywedir hefyd bod Sbaen yn ceisio defnyddio Gibraltar. Nid wyf yn credu hynny chwaith. Mae Sbaen, mewn gwirionedd, wedi bod yn dawel iawn ar fater Gibraltar. Dim ond un cymal oedd hwn a ymddangosodd yn nogfen drafod y Comisiwn. Mae gan hynny fwy i'w wneud nid â sofraniaeth, ond statws Gibraltar fel hafan dreth a sut y byddai hynny’n effeithio ar y ffin â Sbaen yn y dyfodol. Felly, nid wyf yn gweld dim byd maleisus yn hyn. Ceir problemau lle bynnag y bydd hafanau treth y mae angen eu datrys pan fydd ffin ar y tir gyda'r hafan dreth honno.
Mae'n gwbl eglur bod pobl Gibraltar yn dymuno parhau i fod yn Brydeinwyr a dyna beth ddylai ddigwydd. Dyna oedd penderfyniad refferendwm. Pleidleisiodd 95 y cant ohonynt i aros yn yr UE hefyd. Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Pan wnes i gyfarfod â Phrif Weinidog Gibraltar, roedd yn gwbl eglur mai’r peth olaf yr oedd Gibraltar ei eisiau oedd cau’r ffin. Byddai'n drychinebus i economi Gibraltar. Mae tua 15,000 o bobl yn croesi'r ffin bob dydd. Felly, mae er budd Sbaen a Gibraltar bod y ffin honno’n aros ar agor, ond wrth gwrs bydd angen ystyried pa effaith y mae statws treth Gibraltar yn ei chael ar farchnad Ewrop, ac rwy'n siŵr y gellir datrys hynny.
Wel, mae'n sicr yn wir ei fod er budd y ddwy wlad—Sbaen a Gibraltar—i’r ffin honno aros ar agor, gan fod 40 y cant o'r swyddi yn Gibraltar yn cael eu llenwi gan bobl sy'n byw yn Sbaen. O ystyried bod y gyfradd ddiweithdra yn Andalusia yn 30 y cant ac yn 1 y cant yn Gibraltar, yna mae o fudd enfawr i Sbaen barchu statws presennol Gibraltar ac, yn wir, ei statws fel hafan dreth hefyd o ran hynny. Felly, rwyf yn ailadrodd fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog: a wnaiff ef ysgrifennu at Brif Weinidog Gibraltar ac at Brif Weinidog Sbaen yn cefnogi achos trigolion Gibraltar, ynghylch sofraniaeth a’u rhyddid i bennu pa bynnag gyfraddau treth y maen nhw’n ei ddymuno o ran y fasnach sy'n cael ei chynnal mewn gwirionedd o fewn tiriogaeth Gibraltar?
I fod yn deg, nid yw Prif Weinidog Sbaen wedi hawlio Gibraltar mewn gwirionedd nac, yn wir, wedi gwneud unrhyw sylwadau o gwbl ar fater Gibraltar. Mae'r mater wedi dod gan y Comisiwn nid gan Sbaen ei hun. Ailadroddaf yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud: mater i bobl Gibraltar yw sut maen nhw’n dewis pa berthynas y maen nhw’n dewis ei chael. Maen nhw wedi pleidleisio â mwyafrif llethol i aros yn rhan o Brydain a dyna'n union yr hyn ddylai ddigwydd. Ni ddylid gorfodi unrhyw fan i drosglwyddo i wlad arall yn erbyn dymuniadau ei phoblogaeth. Mae hynny'n wir am unrhyw wlad yn fy marn i. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Phrif Weinidog Gibraltar. Byddaf yn cyfarfod ag ef yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n hapus i ailadrodd y pwynt hwnnw wrtho. Yn y trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael, mae pryder Gibraltar ynghylch yr hyn y gallai Brexit ei olygu i’w sefyllfa fasnach ei hun a’i ffin, dyna beth sydd wedi bod yn pryderu Gibraltar fwyaf, yn sicr wrth i ni edrych ymlaen dros y ddwy flynedd nesaf.
Rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog. Mae yn llygad ei le: mae’r ffin yn hanfodol bwysig i Gibraltar. Ond nid yw fel pe na byddai gennym ni unrhyw beth i fargeinio yn ein llaw yn hyn o beth. Os yw’n wir bod Sbaen wedi rhoi ei hawliad i sofraniaeth Gibraltar o’r neilltu a’i bod yn barod i fyw gyda Gibraltar, mae hynny'n iawn. Ond mae'r syniad bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi gwneud y cynnig hwn yn sydyn mewn llythyr heb drafod gyda Phrif Weinidog Sbaen yn sylfaenol hurt. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi ei benderfynu yng Nghyngor y Gweinidogion rhwng y Comisiwn a Phrif Weinidog Sbaen yn benodol. Mae'n hanfodol bwysig i dde Sbaen yn ogystal ag i Gibraltar na ddylai fod unrhyw ymyrraeth o gwbl gan Sbaen ym mywyd economaidd Gibraltar. Rwy’n meddwl, o ystyried bod y Prif Weinidog yn gefnogwr brwd o aros yn yr UE ac, yn wir, roedd mwyafrif llethol pobl Gibraltar ei hun o blaid aros yn yr UE, rwy'n credu mai dyma lle y gall chwarae rhan bwysig i geisio perswadio awdurdodau’r UE am synnwyr da dod i gytundebau synhwyrol â Phrydain er budd pob un ohonom ni.
Wel, nid wyf i erioed wedi cael tri chwestiwn am Gibraltar, mae’n rhaid i mi ddweud. Nid wyf yn gyfrifol o ran fy mhwerau datganoledig am Gibraltar, ond mae gennym ni berthynas gyda Gibraltar. Fel y dywedais, rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda'r Prif Weinidog yno a byddaf yn parhau i gael cyfarfodydd gyda'r Prif Weinidog yn y dyfodol, gan fod Gibraltar mewn sefyllfa debyg i Ogledd Iwerddon, er enghraifft, er ei bod yn wahanol iawn yn yr ystyr bod Gibraltar y tu allan i'r undeb tollau a bod ganddi ei threfniadau ei hun o ran treth. Ond yr hyn sy'n gwbl eglur yw pan fydd Brexit yn digwydd ni ddylai fod unrhyw ansefydlogi o'r ardal o gwmpas y ffin ar yr ochr Sbaen nac, yn wir, o Gibraltar ei hun. Byddwn yn disgwyl i hynny gael ei archwilio yn rhan o'r trafodaethau. Ni fyddwn yn disgwyl ac ni fyddwn yn cefnogi cael unrhyw drafodaethau ynghylch sofraniaeth dros Gibraltar yn y dyfodol; mae’r mater hwnnw wedi ei setlo.