Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 4 Ebrill 2017.
Nid wyf wedi gweld unrhyw beth ar y raddfa hon ers i mi fod yn y brifysgol fy hun yn y 1980au, ac mae hynny’n peri pryder. Mae hefyd yn gywir i ddweud nad yw'n gwbl eglur pa fathau o swyddi fyddai’n cael eu colli. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n disgwyl cael y cyfnod hwnnw o ymgynghori, fel bod mwy o eglurder gan y ddau sefydliad am yr hyn y maen nhw’n ei gynnig. Ond rwy’n pryderu—nid wyf yn gwybod a yw hyn yn gywir ai peidio, ond mae'r ffigurau gen i o fy mlaen—pa un a yw’r gostyngiad yn nifer y ceisiadau, nid yn unig o wledydd yr UE, ond o wledydd eraill hefyd, yn cael effaith ar incwm y prifysgolion hynny, a fyddai, o'n safbwynt ni, fel gwlad sy'n croesawu myfyrwyr, yn rhywbeth i’w resynu’n fawr.