<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:01, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n sicr yn wir ei fod er budd y ddwy wlad—Sbaen a Gibraltar—i’r ffin honno aros ar agor, gan fod 40 y cant o'r swyddi yn Gibraltar yn cael eu llenwi gan bobl sy'n byw yn Sbaen. O ystyried bod y gyfradd ddiweithdra yn Andalusia yn 30 y cant ac yn 1 y cant yn Gibraltar, yna mae o fudd enfawr i Sbaen barchu statws presennol Gibraltar ac, yn wir, ei statws fel hafan dreth hefyd o ran hynny. Felly, rwyf yn ailadrodd fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog: a wnaiff ef ysgrifennu at Brif Weinidog Gibraltar ac at Brif Weinidog Sbaen yn cefnogi achos trigolion Gibraltar, ynghylch sofraniaeth a’u rhyddid i bennu pa bynnag gyfraddau treth y maen nhw’n ei ddymuno o ran y fasnach sy'n cael ei chynnal mewn gwirionedd o fewn tiriogaeth Gibraltar?