<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:03, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog. Mae yn llygad ei le: mae’r ffin yn hanfodol bwysig i Gibraltar. Ond nid yw fel pe na byddai gennym ni unrhyw beth i fargeinio yn ein llaw yn hyn o beth. Os yw’n wir bod Sbaen wedi rhoi ei hawliad i sofraniaeth Gibraltar o’r neilltu a’i bod yn barod i fyw gyda Gibraltar, mae hynny'n iawn. Ond mae'r syniad bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi gwneud y cynnig hwn yn sydyn mewn llythyr heb drafod gyda Phrif Weinidog Sbaen yn sylfaenol hurt. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi ei benderfynu yng Nghyngor y Gweinidogion rhwng y Comisiwn a Phrif Weinidog Sbaen yn benodol. Mae'n hanfodol bwysig i dde Sbaen yn ogystal ag i Gibraltar na ddylai fod unrhyw ymyrraeth o gwbl gan Sbaen ym mywyd economaidd Gibraltar. Rwy’n meddwl, o ystyried bod y Prif Weinidog yn gefnogwr brwd o aros yn yr UE ac, yn wir, roedd mwyafrif llethol pobl Gibraltar ei hun o blaid aros yn yr UE, rwy'n credu mai dyma lle y gall chwarae rhan bwysig i geisio perswadio awdurdodau’r UE am synnwyr da dod i gytundebau synhwyrol â Phrydain er budd pob un ohonom ni.