Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 4 Ebrill 2017.
Prif Weinidog, tanlinellodd adroddiad ddoe gan Sefydliad Prydeinig y Galon y cysylltiadau rhwng polisi ffyrdd a chanlyniadau iechyd. Mae'r ffaith fod 42 y cant o bobl yng Nghymru yn gorfforol anweithgar, sy’n arwain at salwch hirdymor a chostau i'r gwasanaeth iechyd, yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r gostyngiad i deithio llesol dros nifer o flynyddoedd. Pan fydd ffyrdd yn cael eu hystyried yn y dyfodol, a wnaiff y Prif Weinidog wneud yn siŵr bod ymyraethau i annog a blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus ac i adeiladu cynllun beicio yn rhan o’r seilwaith ffyrdd yn ganolog i’r ystyriaethau?