Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 4 Ebrill 2017.
Gwnaf. Ni allaf sefyll yma a phregethu o sefyllfa o gryfder o ran bod yn gorfforol anweithgar, yn anffodus, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod y weledigaeth a ddangoswyd ar yr M4 gynt—yr A48 yn Llansawel erbyn hyn—o ran y llwybr beicio sy'n bodoli dros y bont yn hynod arloesol ar y pryd. Rydym ni wedi ei weld yn cael ei gyflwyno, er enghraifft, ar ffordd osgoi Pentre'r Eglwys. Pan adeiladwyd honno, roedd yn cynnwys llwybr beicio yn rhedeg fwy neu lai ochr yn ochr â hi, a byddem yn disgwyl, lle mae cynlluniau ffyrdd newydd ar waith, y dylai fod gwelliant i lwybrau beicio hefyd, er mwyn rhoi dewis i bobl o ran y ffordd y maen nhw’n teithio, ac nid teimlo bod yn rhaid iddynt deithio mewn car.