Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 4 Ebrill 2017.
Yn gyntaf oll, mae'r sefyllfa y mae’r Aelod wedi ei disgrifio yn sefyllfa lle byddwn i’n disgwyl i'r meddyg teulu wneud diagnosis yn hytrach na bod angen meddyg pediatrig ymgynghorol i wneud hynny. Rydym ni’n sôn yma am haint, neu dwymyn goch—dylai meddyg teulu allu canfod hynny. Ni fyddai angen meddyg ymgynghorol i wneud y diagnosis hwnnw. Mae newidiadau wedi eu gwneud yn Llwynhelyg—mae cymaint â hynny’n wir—yn yr uned triniaethau dydd pediatrig. Maen nhw dros dro, ni fwriedir iddynt fod yn rhai hirdymor, a gwn fod y bwrdd iechyd yn gweithio'n galed i ddatrys y mater ac i ailgyflwyno’r gwasanaeth 12 awr cyn gynted â phosibl.