Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 4 Ebrill 2017.
Prif Weinidog, pan fydd plant yn gadael yr ysbyty, yn enwedig os oes ganddyn nhw gyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd o unrhyw fath, maen nhw’n dal yn mynd i fod angen gofal meddygol ac, wrth gwrs, cymdeithasol yn y cartref, a bydd hynny’n effeithio ar eu gofalwyr a phlant eraill yn y cartref. Ym mis Gorffennaf y llynedd, dywedodd y Gweinidog fod y Llywodraeth yn adnewyddu'r strategaeth gofalwyr ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ac, hyd y gwn, mae’n dal i gael ei hadnewyddu ar hyn o bryd ym mis Ionawr a mis Mawrth eleni. Os mai gofalwyr ifanc a seibiant gofalwyr yw eich blaenoriaeth, pryd y gallan nhw weld yr hyn yr ydych chi’n ei olygu trwy ddweud hynny?