Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 4 Ebrill 2017.
Gallaf sicrhau'r Aelod bod prisiau fforddiadwy yn cael eu hystyried yn rhan o'r broses o gaffael y gwasanaethau rheilffordd nesaf sydd gennym a chontract y metro hefyd. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gweld mwy o deithwyr, yn enwedig ar adegau llai prysur ac ar wasanaethau lle mae nifer y teithwyr yn isel ar hyn o bryd. Rydym ni eisiau gweld gostyngiadau i’r gost o deithio ar gyfer pobl sy'n gweithio patrymau gwaith afreolaidd neu oriau rhan-amser, ac, yn bwysig, mae'n hynod bwysig bod y system yn integredig a bod ganddi system docynnau sydd â thocynnau electronig a thocynnau clyfar. Mae hynny'n rhywbeth sy’n gwbl hanfodol i ddatblygiad y metro.