<p>Trafnidiaeth Gyhoeddus</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:19, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mewn cyhoeddiad, maen nhw’n honni—dyma'r dyfyniad:

un o'r gwelliannau mwyaf arwyddocaol i gymudwyr y cymoedd mewn degawd, ers agor rheilffordd Glynebwy.

Datgelodd Trenau Arriva Cymru eu bod yn dyblu capasiti trenau cymudwyr i mewn ac allan o Gaerdydd i ymdrin â gorlenwi. Fodd bynnag, mae contractau Arriva yn golygu eu bod yn ceisio ymdrin â’r nifer gynyddol o deithwyr gyda'r un nifer o drenau ag yr oedd ganddynt yn 2003. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Threnau Arriva i ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu nifer y trenau i ddarparu gwasanaethau rhwng Caerdydd a'r Cymoedd?