Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 4 Ebrill 2017.
Hoffwn siarad dros gymoedd gogleddol etholaeth Ogwr. Mae gennym ni bedwar cwm, a bydd llawer ohonynt yn elwa ar drafnidiaeth gyhoeddus well o ran bysiau cyflymach, tocynnau rhatach, tocynnau cydgysylltiedig, ond cwm Llynfi yn arbennig. Tybed: beth yw barn y Prif Weinidog ar bwysigrwydd prif reilffordd Maesteg i Cheltenham, fel y mae nawr—neu reilffordd gymunedol fel ag y mae yng nghwm Llynfi—o ran metro de Cymru? Oherwydd i lawer o bobl yn y cwm hwnnw a chymoedd cyfagos, mae hynny mor hanfodol i ardal teithio i'r gwaith Caerdydd ag y mae Glynebwy neu Ferthyr neu unrhyw le arall. Maen nhw’n credu eu bod nhw’n rhan annatod o ardal deithio de Cymru, felly pa ran maen nhw’n ei chwarae ym metro de Cymru?