<p>Trafnidiaeth Gyhoeddus</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:21, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Hynod bwysig. Roedd yn weithred o ragwelediad gwych gan Forgannwg Ganol, a dweud y gwir, ym 1988, i agor y rheilffordd i deithwyr. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'n wasanaeth bob awr heb unrhyw wasanaeth ar y Sul—wel, nid yw hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn fodlon ag ef yn yr hirdymor. Mae'n bwysig ein bod ni’n ceisio cynyddu gwasanaethau ar y rheilffordd ac ystyried sut y gellir gwneud hynny, ac, wrth gwrs, i weld beth y gellir ei wneud i redeg gwasanaeth ar y Sul, er ei bod yn bwysig ein bod ni’n deall beth fyddai nifer y teithwyr ar y gwasanaeth hwnnw ar y Sul. Ond rwy’n gwybod yn iawn bod y trenau hynny yn cael defnydd da dros ben. Maen nhw’n rhedeg yn hwyrach yn y nos nag yr oeddent erbyn hyn, sy’n un peth—nid wyf yn treulio fy holl amser yn edrych ar amserlenni rheilffyrdd, a gaf i ychwanegu, er fy mod i’n rhoi’r argraff honno ar adegau. Ond gwn fod y gwasanaeth yn hynod bwysig i bobl cwm Llynfi, a byddwn yn ceisio gwella'r gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol.