<p>Gwasanaethau Bancio</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:22, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Materion i’r banciau yw penderfyniadau am leoliad canghennau, ond rydym ni’n cydnabod yr effaith negyddol y gall cau canghennau ei chael ar gymunedau. Er nad yw hyn wedi ei ddatganoli, wrth gwrs, rydym wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd swyddfeydd post yn gallu darparu gwasanaethau i lenwi rhai o'r bylchau sy’n cael eu gadael ar ôl cau canghennau banc. Os yw hynny'n cael ei wneud yn iawn, mae’n bosibl iawn y gallai wella'r gwasanaeth i ddefnyddwyr banciau, yn hytrach na lleihau'r gwasanaeth.