2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Ebrill 2017.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi mynediad at wasanaethau bancio'r stryd fawr yng nghanol trefi? OAQ(5)0549(FM)
Materion i’r banciau yw penderfyniadau am leoliad canghennau, ond rydym ni’n cydnabod yr effaith negyddol y gall cau canghennau ei chael ar gymunedau. Er nad yw hyn wedi ei ddatganoli, wrth gwrs, rydym wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd swyddfeydd post yn gallu darparu gwasanaethau i lenwi rhai o'r bylchau sy’n cael eu gadael ar ôl cau canghennau banc. Os yw hynny'n cael ei wneud yn iawn, mae’n bosibl iawn y gallai wella'r gwasanaeth i ddefnyddwyr banciau, yn hytrach na lleihau'r gwasanaeth.
Mae NatWest wedi cyhoeddi’r canghennau y maent yn eu cau ledled y de. Rydym ni wedi clywed am gau canghennau yn etholaethau Alun Davies, Lynne Neagle, Vikki Howells, ac yn fy etholaeth i, lle mae cangen Ystrad Mynach yn cau—mae hynny’n dod ar ben Barclays yn cau yn Nelson—a gwnaeth NatWest hynny heb unrhyw ymgynghori o gwbl, hyd y gwn i, ac rwy’n condemnio hynny ac rwy’n meddwl y dylid bod wedi cael ymgynghoriad llawer gwell nag a gafwyd. Rwy'n poeni am yr effaith ar bobl oedrannus ac agored i niwed, pobl nad oes ganddynt fynediad at fancio ar-lein, a hefyd y neges y mae hyn yn ei ddangos i strydoedd mawr lle mae banciau yn cau, canghennau yn cau, ac rydym ni’n ceisio adfywio'r cymoedd gogleddol ac adeiladu canol ein trefi, ac mae'r banciau’n gwneud y gwrthwyneb, ac rwy'n credu ei fod yn hollol y peth cwbl anghywir i'w wneud.
Soniasoch am Swyddfa'r Post: i ba raddau allwch chi fel Llywodraeth Cymru a ni fel Aelodau Cynulliad sicrhau bod pobl fel Swyddfa'r Post yn sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gael yn briodol?
Rwyf wedi gweld canghennau yn cau yn fy etholaeth fy hun hefyd dros y blynyddoedd. Gwn, hyd yn oed mewn canghennau yn nhref Pen-y-bont ei hun, bod nifer y defnyddwyr wedi gostwng yn eithaf sylweddol gan fod y rhesymau i bobl fynd i'r banc yn brin erbyn hyn o'i gymharu â blynyddoedd yn ôl. Nawr, nid yw gwasanaethau bancio ar y rhyngrwyd yn ateb ynddynt eu hunain. Fel y mae’r Aelod yn ei nodi’n gywir, ceir pobl sydd naill ai'n methu neu nad ydynt yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio gwasanaethau electronig, ac mae’n rhaid darparu ar eu cyfer nhw. Yn fy marn i, os caiff hyn ei wneud yn iawn ac y gall pobl gael mynediad at yr un gwasanaethau drwy'r swyddfa bost, bydd hynny’n rhoi mynediad iddynt at ystod eang o ganghennau. Bydd hefyd yn helpu gyda chynaliadwyedd swyddfeydd post, oherwydd gwn eu bod yn derbyn comisiwn am ddarparu’r gwasanaethau bancio hynny, ac mae'r swyddfeydd post yn cynnig ffordd o sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i'r bobl hynny sy'n eu defnyddio.
Rwyf wedi cael fy hysbysu gan fanciau y bydd mwy o ganghennau’n cau ar ryw adeg yn y dyfodol—dim byd penodol, ond dyna’r duedd y maen nhw wedi ei gweld hyd yn hyn. HSBC oedd yr olaf i wrthsefyll y duedd honno—fe wnaethon nhw gadw eu canghennau ar agor yn hwy na'r mwyafrif mewn rhai rhannau o Gymru—ond mae'n gwbl hanfodol nad yw gwasanaethau'n cael eu colli i bobl a'u bod yn cael eu darparu gan ddull amgen y swyddfa bost.
Mae datganiad Banc Lloyd’s yr wythnos yma eu bod nhw’n bwriadu shrincio nifer fawr o ganghennau banciau yn bryderus mewn sawl ffordd, wrth gwrs, yn arbennig o ran y cwtogiadau mewn swyddi mae hynny’n sicr o’i olygu a’r erydiad yn y gwasanaeth cownteri wyneb yn wyneb. Ond mi allwn ni hefyd gymryd agwedd gadarnhaol tuag at y cyhoeddiad yn rhannol, o ran mai’r hyn rydym ni’n ei weld ydy’r banc yn addasu fel ymateb i newidiadau yn arferion cwsmeriaid, yn hytrach na chymryd y cam sydd wedi ymddangos yn llawer rhy hawdd iddyn nhw yn y gorffennol, sef cau canghennau. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai pwyso ar y banciau i addasu yn hytrach na chau sydd orau er mwyn y stryd fawr yng Nghymru ac y dylid chwilio i ddefnyddio pob arf deddfwriaethol a rheoleiddiol posib er mwyn pwyso arnyn nhw i wneud hynny?
Nid ydw i’n credu bod modd deddfwriaethol i newid y sefyllfa, ond rwy’n cytuno â fe ynglŷn â’r ffaith y dylai’r banciau feddwl am bopeth ond cau—taw cau dylai fod yr opsiwn diwethaf, nid yr opsiwn cyntaf, o achos y ffaith, wrth gwrs, fod y gwasanaeth yn cael ei golli ar y stryd fawr. Os nad yw hynny’n bosib, mae e’n hollbwysig, felly, fod y banciau yn delio â swyddfa’r bost er mwyn bod y gwasanaethau’n gallu parhau yn y swyddfa bost, ond, wrth gwrs, ni fyddem ni’n moyn gweld cau canghennau fel rhywbeth sydd yn flaenoriaeth i’r banciau.
Prif Weinidog, mae banc NatWest, yn y 12 diwrnod diwethaf, wedi cyhoeddi hefyd y bydd canghennau’r Trallwng a Machynlleth yn cau yn fy etholaeth i—dwy dref bwysig iawn, wrth gwrs, yno, hefyd. Fel y mae Hefin David wedi sôn, maen nhw wedi gwneud hynny heb unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus o gwbl. Nawr, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus neithiwr yn y Trallwng ynglŷn â hyn, a thrafodwyd y swyddfa bost, fel yr ydych wedi sôn, fel posibilrwydd hefyd, ond mae llawer o'r problemau yno yn ymwneud â phreifatrwydd a mynediad i bobl anabl. A oes capasiti gwirioneddol yn y swyddfeydd post, hefyd, mewn rhai lleoliadau penodol? Nawr, fel y dywedasoch, rwy’n deall yn llwyr mai mater i’r banc yw hwn, wrth gwrs, yn y pen draw,— penderfyniad masnachol ydyw. Rwyf wedi ei godi o’r blaen—ac wedi cael ymateb eithaf cadarnhaol gan y Gweinidogion wrth alw ar y Llywodraeth i hwyluso trafodaeth gyda'r banciau a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a phartneriaid eraill i archwilio model bancio cymunedol a fyddai'n arwain at fanciau yn rhannu gwasanaethau. Tybed a fyddai hyn yn rhywbeth y byddech yn fodlon ei archwilio yn fwy manwl.
Fe wnaf ystyried hynny. Byddaf yn gofyn i’r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelod ynghylch y cynigion y mae wedi eu gwneud. Yr hyn nad ydym eisiau ei weld yw colli gwasanaethau bancio yn gyfan gwbl mewn cymunedau, a cheir perygl, pan fo banciau—yn enwedig pan fyddant yn gwneud hyn yn gyflym iawn—yn penderfynu cau canghennau, nad oes darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud yn y swyddfeydd post—nad ydynt yn gadael peiriant arian, er enghraifft, mewn cymuned, ac felly ni all pobl gael arian parod. Gwn, yng Nghrucywel yn ddiweddar, fod un o’r canghennau wedi cau, ond mae'r peiriant arian wedi aros, sy'n rhoi rhywfaint o wasanaeth i bobl leol, ond nid pob gwasanaeth. Felly, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelod am hynny, yn enwedig o ran yr awgrym y mae’n ei wneud ar gyfer bancio cymunedol.