<p>Gwasanaethau Bancio</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:27, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Fe wnaf ystyried hynny. Byddaf yn gofyn i’r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelod ynghylch y cynigion y mae wedi eu gwneud. Yr hyn nad ydym eisiau ei weld yw colli gwasanaethau bancio yn gyfan gwbl mewn cymunedau, a cheir perygl, pan fo banciau—yn enwedig pan fyddant yn gwneud hyn yn gyflym iawn—yn penderfynu cau canghennau, nad oes darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud yn y swyddfeydd post—nad ydynt yn gadael peiriant arian, er enghraifft, mewn cymuned, ac felly ni all pobl gael arian parod. Gwn, yng Nghrucywel yn ddiweddar, fod un o’r canghennau wedi cau, ond mae'r peiriant arian wedi aros, sy'n rhoi rhywfaint o wasanaeth i bobl leol, ond nid pob gwasanaeth. Felly, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelod am hynny, yn enwedig o ran yr awgrym y mae’n ei wneud ar gyfer bancio cymunedol.