Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 4 Ebrill 2017.
Oes, gallaf ddweud bod dirprwyaeth dan arweiniad swyddogion lefel uwch wedi ymweld â Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg ym mis Hydref er mwyn cynnal deialog uniongyrchol. Ymwelodd is-lywydd y Banc â Chaerdydd ar gyfer nifer o gyfarfodydd ar 9 Chwefror. Ond rydym ni’n argymell yn gryf y dylai'r DU barhau i fod yn bartner nawdd i Fanc Buddsoddi Ewrop. Nid yw'n costio unrhyw beth i'r DU; arian benthyciad cyfraniadau’r DU, felly mae'n ad-daladwy dros gyfnodau’r benthyciadau hynny. Nid oes unrhyw reswm, o gwbl, pam, wrth adael y DU, na allwn aros yn rhan o seilwaith Banc Buddsoddi Ewrop.