2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Ebrill 2017.
8. A oes gan y Prif Weinidog gynlluniau i fynd ar ymweliadau swyddogol i wledydd Ewropeaidd yn y dyfodol agos? OAQ(5)0558(FM)
Oes. Roedd fy ymweliadau diweddaraf â Brwsel a Norwy, ac rwy’n bwriadu ymweld â Gibraltar yn y dyfodol agos.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. A oes ganddo unrhyw gynlluniau i ymweld â Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg i gyflwyno achos Cymru ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol gan y banc mewn prosiectau yng Nghymru fel Ysbyty Felindre yn fy etholaeth i, ac i gyflwyno’r achos i’r DU barhau fel partner tanysgrifio ar ôl i ni adael yr UE?
Oes, gallaf ddweud bod dirprwyaeth dan arweiniad swyddogion lefel uwch wedi ymweld â Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg ym mis Hydref er mwyn cynnal deialog uniongyrchol. Ymwelodd is-lywydd y Banc â Chaerdydd ar gyfer nifer o gyfarfodydd ar 9 Chwefror. Ond rydym ni’n argymell yn gryf y dylai'r DU barhau i fod yn bartner nawdd i Fanc Buddsoddi Ewrop. Nid yw'n costio unrhyw beth i'r DU; arian benthyciad cyfraniadau’r DU, felly mae'n ad-daladwy dros gyfnodau’r benthyciadau hynny. Nid oes unrhyw reswm, o gwbl, pam, wrth adael y DU, na allwn aros yn rhan o seilwaith Banc Buddsoddi Ewrop.
Diolch i’r Prif Weinidog.