5. 3. Dadl: Y Goblygiadau i Gymru yn sgîl Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:36, 4 Ebrill 2017

Mi wnaf rai sylwadau perthnasol i Gymru gyfan, ac yn arbennig, felly, fy etholaeth i yn Ynys Môn. Rydym ni i gyd wedi clywed pobl yn sôn am bwysigrwydd cymryd rheolaeth yn ôl. Beth nad ydym yn eglur amdano fo, wrth gwrs, yw beth yn union rydym yn sôn amdano fo: pa fath o reolaeth, nac ychwaith beth fydd y gost o gymryd y rheolaeth yna. Y peryg rydym yn ei wynebu yng Nghymru bellach yw y gallem ni fod yn colli rheolaeth yn sgil bwriad Llywodraeth Prydain drwy’r ‘great repeal Bill’. Rydym ni wedi clywed rhai o fy nghyd-Aelodau i yn sôn am hynny. Er enghraifft, rwy’n bryderus iawn dros y diwydiant amaeth yn fy etholaeth i os yw Llywodraeth Prydain yn gwneud yr hyn y maen nhw’n bygwth ei wneud, maen ymddangos, o ran cadw hawliau fframweithiau Ewropeaidd iddyn nhw eu hunain, dros dro o leiaf, efo dim addewidion yn yr hirdymor, yn hytrach na gwneud yr hyn sydd yn gyfiawn, yn gyfansoddiadol, rwy’n credu, ac yn allweddol ar gyfer ein economi wledig, a chymdeithas wledig, sef i sicrhau bod Senedd Cymru yn parhau i fod â chyfrifoldeb llawn am faterion yn y maes yma, maes sydd yn gwbl glir yn faes datganoledig.

Ond mi soniaf, os caf, am fater arall o golli rheolaeth a ddaw yn sgil llythyr erthygl 50: nid colli rheolaeth am resymau cyfansoddiadol, nid am resymau deddfwriaethol, ond drwy oblygiadau ymarferol y math o ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd mae Llywodraeth Prydain, maen ymddangos, yn benderfynol o chwilio amdano fo. Ynys Môn ydy’r prif borth ar gyfer masnach rhwng y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. Drwy borthladdoedd Cymru mae dros tri chwarter y masnach ar lorïau rhwng Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop yn pasio. Mi wnaeth 79 y cant o’r rheini basio drwy borthladd Caergybi. Mi basiodd dros 2 filiwn o bobl drwy’r porthladd: cannoedd o filoedd o geir, a miloedd o fysys. Rwy’n gobeithio fy mod yn creu darlun o pam bod porthladd Caergybi mor bwysig i Gymru a mor bwysig i Ynys Môn, lle mae cannoedd, wrth gwrs, yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol yn y porthladd, a llawer mwy mewn busnesau sy’n gysylltiedig â llwyddiant y porthladd. Fy mhryder i ydy bod Llywodraeth Prydain yn gwirfoddoli i golli rheolaeth dros ffyniant y porthladd hwnnw, drwy benderfynu, maen ymddangos, ildio’i haelodaeth o’r farchnad sengl, ac, o bosib, yr undeb tollau. Os oes rhaid, am resymau amlwg iawn—achub y broses heddwch—sicrhau ffin feddal rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, fyddai hynny ddim yn wir rhwng Cymru ac Iwerddon. Mi fyddai Caergybi/Dulyn yn ffin galed, bosib iawn. Mi fyddai yna demtasiwn mawr, rwy’n siŵr, i ddatblygu teithiau uniongyrchol o Weriniaeth Iwerddon i Ffrainc—teithiau sy’n bodoli ar hyn o bryd, wrth gwrs. Rwy’n ofni yn wirioneddol beth fyddai effaith troi Caergybi o’r llwybr cyflymaf, y llwybr hawsaf, y llwybr mwyaf effeithiol rhwng Ewrop ac Iwerddon, i un o’r llwybrau anoddaf.

Mi geisiom ni yn y Papur Gwyn, a gafodd ei lunio ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, ddweud pa reolaeth fyddem ni’n dymuno i Lywodraeth Prydain ei chadw, os liciwch chi, ar y berthynas rhwng Prydain ac Ewrop yn y dyfodol. Mae chwarae rhan yn y farchnad sengl yn agos at frig y rhestr honno, os nad ar y brig. Nid wyf i ishio gadael yr Undeb Ewropeaidd—ni fyddaf i byth. Ond gan mai dyna’r cyfeiriad rydym ni’n mynd iddo fo, rydym ni’n gorfod chwilio am fesurau lliniaru, ac mae’r farchnad sengl yn gwbl allweddol i hynny. Mae angen parhau i bwyso am hynny.

I gloi, mi wnaf i droi at y Bil parhad sy’n destun ein gwelliant ni. Mi ddywedodd y Prif Weinidog ei fod o’n credu mai ‘last resort’ ddylai Bil parhad fod er mwyn sicrhau dyfodol cyfansoddiadol Cymru a sicrhau ein bod ni yn Senedd Cymru yn datgan mewn deddfwriaeth ein disgwyliadau ni na fydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn tanseilio’n gallu i weithredu ar ran pobl Cymru. Mi ychwanegodd y byddai’n rhaid aros am y ‘great repeal Bill’ yn gyntaf. Mi ddywedaf i hyn: siawns mai rŵan ydy’r cyfle a’r amser inni weithredu, achos ni allwn ni ddim aros i weld os ydy Llywodraeth Prydain yn mynd i weithredu mewn ffordd sy’n adlewyrchu anghenion pobl Cymru, achos nid ydy’r arwyddion yno ar hyn o bryd bod Llywodraeth Prydain am wneud hynny.