Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 4 Ebrill 2017.
Diolch i'r Aelod am ildio. A fyddai hefyd yn cytuno â mi ei fod yn fater o fwy byth o frys ein bod yn deddfu cyn gynted â phosibl gan fod Llywodraeth y DU wedi dweud ar goedd na fydd yn cyhoeddi drafft o'r Bil diddymu mawr? Felly, beth bynnag a gyhoeddir a phryd bynnag y caiff ei gyhoeddi—erbyn canol mis Medi—ni fydd gennym yr amser i ymateb iddo, o leiaf yn ddeddfwriaethol.