5. 3. Dadl: Y Goblygiadau i Gymru yn sgîl Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:42, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Mae cyd-Aelodau eisoes wedi tynnu sylw y prynhawn yma at y ffaith bod Llywodraeth y DU, ar ôl llawer o gerdded drwy'r tywyllwch, wedi, o’r diwedd, cyrraedd pwynt lle mae nawr yn dechrau gwneud rhywbeth ynglŷn â chanlyniadau'r refferendwm ar 23 Mehefin. Fodd bynnag, fel y gwyddom i gyd, dim ond un peth a ddywedodd y refferendwm hwnnw: bod yn rhaid inni adael sefydliadau'r UE. Nid oedd yn penderfynu ar ba delerau y byddem yn gadael ac nid oedd yn trafod y berthynas newydd â’r 27 o aelod-wladwriaethau eraill. Dyma pam mae’n bwysig nawr rhoi ein hamcanion ni ar yr agenda, wrth i’r broses ynglŷn â hynny ddechrau.

Rwy'n siomedig, cyn y pwynt hwn a chyn rhoi erthygl 50 ar waith, nad yw Llywodraeth San Steffan wedi trin y mater hwn mewn modd sy’n dangos digon o barch i sefydliadau’r gwledydd datganoledig wrth symud ymlaen, er bod Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru ill dwy wedi cyflwyno eu cynigion eu hunain i’w hystyried. Nawr, mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad datganedig i gynnwys y gwledydd datganoledig yn llawn. Mae angen i hyn fynd y tu hwnt i ddim ond cwrdd â Gweinidogion drwy'r Cydgyngor Gweinidogion, neu'r JMC(EN), ond ystyried mewn gwirionedd yr hyn y mae pob Llywodraeth wedi’i gyflwyno gan gynnwys Gweinidogion o genhedloedd datganoledig yn y broses negodi, pan fo’n briodol, a chreu mecanwaith cyfansoddiadol newydd ar gyfer ein gwledydd.

Cafodd hyn sylw yn yr adroddiad gan Bwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gyhoeddwyd heddiw, yn, i’r rhai a hoffai ei ddarllen, paragraff 10 a pharagraff 13—edrychwch yn ofalus arno—ond hefyd mewn adroddiad gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, sy'n datgan, a dyfynnaf:

Bydd hyn yn golygu y bydd angen i Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig reoli rhyngwynebau newydd—a’r posibilrwydd o gyfrifoldebau sy’n gorgyffwrdd—rhwng materion a gadwyd a chymhwysedd datganoledig mewn meysydd lle nad yw gwrit cyfraith yr UE yn berthnasol mwyach. Bydd angen i Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig gytuno, cyn Brexit, sut i reoli’r rhyngwynebau newydd hynny.’

Mewn geiriau eraill, mae pawb yn dweud, ac eithrio Llywodraeth y DU, 'Mae angen strwythur cyfansoddiadol sy'n seiliedig ar statud, nid dim ond ar ysgwyd llaw da.' Llywydd, mae rhai yn Llywodraeth y DU sydd wir yn derbyn datganoli. Mae rhai hyd yn oed yn ei ddeall, ond mae gormod nad ydynt ac sy’n credu bod yn rhaid i bopeth gael ei lywio gan San Steffan a Whitehall. Mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gydweithio’n wirioneddol gryf gyda'n cymheiriaid yn y gwledydd datganoledig eraill i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gwireddu ei geiriau a’i theimlad yn y llythyr erthygl 50 ac ym Mhapur Gwyn y Bil diddymu mawr. Maent yn ei ddweud; gadewch inni wneud yn siŵr eu bod yn ei wneud.

Dirprwy Lywydd, roedd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru hefyd yn gosod yr economi ar frig yr agenda, ac yn ddealladwy felly, oherwydd mae angen ffyniant ar draws y genedl hon ac mae gallu busnesau Cymru i fasnachu heb rwystrau—boed yn ariannol neu’n rheoleiddiol—yn hanfodol i ganiatáu iddi dyfu. Ac mae gweithgynhyrchu’n chwarae rhan fawr yn economi Cymru, yn fwy nag unrhyw wlad arall yn y DU—yn wir, mae’n 16 y cant o GYC. Ac felly, mae’n rhaid inni sicrhau nad yw ysgariad anodd, â'r rheolau WTO Brexit, yn digwydd, gan y byddai'n golygu gosod tariffau andwyol ar ein hallforion.

Sylwais fod gwelliant 6 UKIP yn tynnu sylw at y ffaith yr hoffent ddweud, 'Mae'n £8 biliwn; gallwn ni ddefnyddio'r arian.' Rwy’n meddwl mai’r cwbl yw hynny yw esgus i gyfiawnhau pam na allant wir gyflawni eu haddewidion o ddarparu £350 miliwn yr wythnos i’n gwasanaethau cyhoeddus. Maen nhw’n awyddus i guddio'r ffaith na allant wneud hynny, ac felly maen nhw nawr yn dweud, 'O, gadewch inni gael rhyw £8 biliwn arall gan yr UE.' Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ymdrin ag ef yn glir iawn. Blaenoriaeth y Papur Gwyn, mewn gwirionedd, yw mynediad dilyffethair, ac mae'n un y dylem i gyd ei chroesawu. Rydym yn gwybod bod—. Rydym yn deall bod cytundebau masnach rydd yn bwysig, ond mae’n rhaid i ni hefyd ddeall safbwynt 27 yr UE, oherwydd yn aml iawn, rydym yn sôn am ein safbwynt hi, ond ceir trafodaethau.

Soniodd Mark Reckless am ‘feistrolaeth’ y llythyr ar erthygl 50. Gwelais i fygythiad cudd yn y llythyr hwnnw am ddiogelwch. Nid wyf yn galw hynny’n ‘feistrolaeth’; rwy'n galw hynny’n ‘fygythiadau a brawychu’, ac nid yw hynny'n negodi da.