Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 4 Ebrill 2017.
Rwy’n cydnabod bod eich Papur Gwyn yn gynharach, ond dim ond wythnos yn gynharach, ac rwy'n amau bod eu papur nhw wedi mynd heibio i’r cam drafftio terfynol erbyn hynny. Ond, o ran y ffin, mae dogfennau Llywodraeth y DU yn ymdrin â'r mater hwnnw, ac mae hefyd wedi ei gydnabod yn yr ymateb gan y Cyngor Ewropeaidd. Felly, gan gydnabod bod angen i’r ffin o amgylch gweddill y DU gydymffurfio â'r cynigion, mae'r sefyllfa ar y ffin ag Iwerddon yn cael ei chydnabod gan bob parti.