Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 4 Ebrill 2017.
Diolch. Bu blwyddyn erbyn hyn ers i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 nodedig ddod i rym, ac rydym ni’n gweld y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad yn cael ei weddnewid i ddiwallu anghenion yr unigolyn. Mae gan bobl lais cryfach o ran gwella eu llesiant ac o ran penderfynu pa gymorth sydd ei angen arnynt i'w helpu i fyw’n annibynnol. Mae gofal yn cael ei gydgysylltu gyda'r unigolyn fel canolbwynt, gan gydnabod mai nhw, a'u teuluoedd, sydd â’r ymwybyddiaeth orau o’r sefyllfa; maen nhw’n ei byw bob dydd.
Mae'r Ddeddf wedi cynnig y cyfle i ganolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig i bobl ac i drefnu’r cymorth sydd ei angen trwy drafodaethau go iawn sy'n adeiladu ar sgiliau, cryfderau a galluoedd yr unigolyn. Roedd y Ddeddf yn benllanw blynyddoedd lawer o waith caled, ar y cyd ar ôl cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn 2011, 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu'.
Amlygodd y Papur Gwyn nifer o heriau a wynebir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio a mwy o alw am wasanaethau, yn ogystal ag ystyried y realiti economaidd anodd parhaus. Nododd weledigaeth newydd ar gyfer y sector, a oedd yn cynnig y canlyniadau gorau posibl i’r rhai sydd angen gofal a chymorth, gan wneud gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol hefyd.
O'r cychwyn cyntaf, datblygwyd a chyflwynwyd y Ddeddf mewn gwir bartneriaeth ag awdurdodau lleol, y trydydd sector, darparwyr gofal, a'r gwasanaeth iechyd. Mae ei chyflwyno yn cryfhau’r integreiddio hwn ymhellach.
Mae saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn arwain y newid i wasanaethau erbyn hyn, gan gynnal asesiadau poblogaeth ardaloedd eu hunain er mwyn eu galluogi i gynllunio atebion wedi'u teilwra yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn o'r hyn y mae'r bobl yn y rhanbarth hwnnw ei eisiau a'i angen. Yn ogystal â chynrychiolaeth amlasiantaeth, mae llais y dinesydd yn gynyddol bresennol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod atebion yn cael eu cydgynhyrchu gyda mewnbwn gan bawb dan sylw.
Bydd yr asesiadau poblogaeth yn nodi amrywiaeth a lefel y gwasanaethau ataliol sy’n angenrheidiol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth gwahanol ardaloedd poblogaeth. I gefnogi hyn, dyrannais £15 miliwn o'r gronfa gofal canolraddol fis Medi diwethaf i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau ataliol mewn cymunedau, a byddwn yn parhau i ddatblygu'r mathau hyn o wasanaethau, yn ogystal ag eraill sy'n ofynnol yn sgil y newidiadau a wnaed drwy'r ddeddfwriaeth, drwy'r gronfa gofal integredig gwerth £60 miliwn sydd wedi’i hailfrandio.
Yn ddiweddar, ymwelais â thîm adnoddau cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei ganolfan, sef cyfleuster gofal preswyl Trem-y-môr ym Metws ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Trwy ddod ag aelodau staff ynghyd o dimau ail-alluogi, ffisiotherapi, nyrsio, gwaith cymdeithasol, a therapi galwedigaethol, mae gwasanaethau integredig fel yr un yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yn yr ardal.
Y mathau hyn o wasanaethau ataliol, integredig yn y gymuned sy’n gallu mynd i'r afael ag anghenion pobl ac ymyrryd yn gynharach er mwyn helpu a chynorthwyo unigolion cyn i'w hanghenion ddod yn fwy critigol. Gallant gadw pobl allan o'r ysbyty ac yn eu cartrefi, yn byw’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis yn ddiogel ac yn annibynnol am gyfnod hwy.
Byddai'n amhosibl disgrifio’r holl gamau sy'n cael eu cymryd yn y sector o dan bob rhan o'r Ddeddf eang yn y datganiad hwn heddiw, ond i roi blas i’r Siambr o’r manteision gwirioneddol yr ydym ni’n eu gweld yn sgil y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, hoffwn dynnu sylw at lwyddiant Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, a sefydlwyd o dan y ddeddfwriaeth. Ers ei sefydlu, rydym ni wedi gweld yr amser aros cyn i blant sy’n derbyn gofal gael lleoliad mabwysiadu yn haneru bron, i 13.5 mis o 26 mis.
Rydym hefyd yn falch bod y Ddeddf wedi rhoi mwy o hawliau i ofalwyr. Fel Llywodraeth, rydym ni’n cydnabod y rhan hanfodol y mae gofalwyr yn ei chwarae ledled Cymru. Nawr, am y tro cyntaf, yn sgil y ddeddfwriaeth hon, mae gan ofalwyr yr un hawl i asesiad a chymorth â’r rhai y maen nhw’n gofalu amdanynt. Rydym wedi ei gwneud yn eglur erioed y byddwn yn monitro cynnydd y Ddeddf a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i helpu pobl sydd angen gofal a chymorth i sicrhau llesiant. Cyhoeddwyd y fframwaith canlyniadau cenedlaethol ym mis Mawrth 2016, gan restru 50 o ddangosyddion cenedlaethol i fesur llesiant pobl yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth.
Byddwn yn pennu llinell sylfaen drwy ein hadroddiad blynyddol cyntaf, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl cyhoeddi data’r arolwg cenedlaethol, yr hydref hwn. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei lunio’n yn nhymor yr hydref bob blwyddyn wedyn o 2017-18 ymlaen. Bydd gwerthusiad annibynnol hirdymor yn dechrau yn nhrydedd flwyddyn gweithrediad y Ddeddf, gyda grŵp gwerthuso rhanddeiliaid i hysbysu’r fanyleb ar gyfer y gwerthusiad a’i llywio.
Ar ddiwedd blwyddyn gyntaf hon y ddeddf, megis dechrau yr ydym ni ar y broses o weddnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ond mae eisoes yn amlwg bod y sector yn ymateb i'r her o gynorthwyo pobl sydd ei angen trwy wneud yr hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw. Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i gynorthwyo ein partneriaid i gyflawni'r agenda uchelgeisiol hon i'w llawn botensial. Mae'r daith hefyd yn parhau trwy weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, y Ddeddf ategol i Ddeddf 2014, sy'n cydsynio rheoleiddio ag egwyddorion ei chwaer ddeddfwriaeth ac yn cryfhau amddiffyniad i’r rhai sydd ei angen. Ddoe, ac o ganlyniad i’r Ddeddf rheoleiddio ac arolygu, daeth Cyngor Gofal Cymru yn Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn adeiladu ar waith y cyngor gofal, gan barhau i fod yn gyfrifol am reoleiddio a datblygu'r gweithlu, ond hefyd yn arwain y gwaith o wella’r sector gofal, yr ydym yn ei gydnabod fel sector o bwysigrwydd strategol cenedlaethol.
Y gwanwyn hwn, yn dilyn ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, byddaf hefyd yn cyflwyno ail gam y rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig o dan Ddeddf 2016 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Bydd yn cynnwys y gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol mewn gofal cartref a gofal preswyl, a’r gofynion o ran sicrhau llety i blant hefyd nawr. Bydd trydydd cam yn dilyn, a fydd yn canolbwyntio ar wasanaethau maethu, cymorth mabwysiadu, lleoliadau i oedolion, a darparwyr eiriolaeth. Ar ddiwedd y broses hon, bydd gennym system reoleiddio ac arolygu sydd ar flaen y gad o ran sicrhau bod gofal a chymorth yng Nghymru y gorau y gall fod. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i gyflawni gwahaniaethau gwirioneddol pellach i fywydau rhai o'r bobl yng Nghymru sy'n eu haeddu fwyaf. Diolch.