Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 4 Ebrill 2017.
Oes, mae blwyddyn wedi pasio ers i’r Ddeddf ddod i rym, ond, mewn gwirionedd, roedd cyfran helaeth o’r Ddeddf yn ymwneud â rhoi pwerau i’r Llywodraeth wneud rheoliadau dros amser dros amrywiaeth eang o weithgareddau. Felly, mae yna lai na blwyddyn o weithredu wedi bod mewn nifer o feysydd.
Er mwyn cadw ffocws, rydw i am ganolbwyntio, os caf i, ar ofalwyr, gan fod y Ddeddf, wrth gwrs, wedi cymryd lle’r Mesur gofalwyr. Mi glywsom ni chi yn sôn yn y fan yna bod y Llywodraeth yn cydnabod y rôl allweddol y mae gofalwyr yn ei chwarae ar draws Cymru, a bod yna, drwy’r ddeddfwriaeth, yr hawl i gael asesiad a chefnogaeth i’r gofalwyr hynny. Mae’r Llywodraeth, meddai chi, am fonitro sut mae pethau’n gwella o ganlyniad i’r Ddeddf a’r gwahaniaeth mae hi’n ei wneud i bobl sydd angen gofal. Nid oes yna yn dal ddim sôn yma am y math o ganlyniadau rydych chi wedi eu canfod o unrhyw fonitro. Mae Gofalwyr yng Nghymru—Carers Wales—wedi cyhoeddi eu monitor nhw o berfformiad ers y Bil. Mi wnaf eich atgoffa chi o rai o’r pethau maent wedi canfod: nid yw 17 allan o’r 22 awdurdod lleol yn gallu darparu data ar nifer y gofalwyr sy’n cysylltu â nhw dros y ffôn; nid yw’r rhan fwyaf o gynghorau yn gwybod faint o ofalwyr maent wedi eu cyfeirio at fudiadau eraill; nid yw 16 o’r 22 awdurdod yn gallu darparu ffigurau ar faint o bobl roedden nhw wedi eu cyfeirio at fudiadau eraill, ac yn y blaen ac yn y blaen.
Ar yr un pryd hefyd, mi wnaf dynnu sylw at y 24 y cant o ostyngiad sydd wedi bod yn nifer y nosweithiau o ofal seibiant dros y cyfnod yma. Dywedodd 80 y cant o bobl a wnaeth gwblhau arolwg Carers Wales nad oeddent wedi cael cynnig asesiad anghenion. Y cwestiwn sydd yn fy meddwl i rŵan, flwyddyn ymlaen, ydy: a oes yna newid ymarferol gwirioneddol mesuradwy wedi bod, ynteu a ydy’r Llywodraeth yn dal i ddatgan rŵan, flwyddyn ymlaen, beth maen nhw’n ddymuno all ddigwydd o ganlyniad i’r Ddeddf yma, sydd eisoes mewn bodolaeth ers blwyddyn?
Felly, mewn ymateb i’r pryderon a gafodd eu codi gan Carers Wales, a minnau wedi eu codi nhw yn y Siambr yma, mi ddywedasoch chi eich bod chi wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru am y mater, ac wedi gofyn i swyddogion edrych yn fwy trwyadl ar y canfyddiadau. A allwch chi roi diweddariad i ni o ba weithredoedd y bydd awdurdodau lleol yn eu cymryd o ganlyniad i’ch llythyr chi? Hefyd, a allwch chi rannu eich barn am ganfyddiadau Carers Wales, sy’n eithaf trawiadol ynglŷn a beth sydd wedi digwydd flwyddyn ers y Ddeddf?
Mi wnaethoch chi hefyd ddweud eich bod yn trafod model cenedlaethol o ran sut i ddelio â’r cwestiwn o ofal seibiant efo’r trydydd sector. A allwch chi roi manylion i ni am pa bryd allwn ni weld y model cenedlaethol yma yn cael ei ddatblygu, ac os y byddwch chi’n anelu yn benodol at wrthdroi y gostyngiad sydd wedi bod yn y nifer o nosweithiau gofal seibiant sy’n cael eu darparu? Achos mae fy etholwyr i ac, rwy’n gwybod, etholwyr i Aelodau ar draws y Siambr yma, yn clywed digon gan etholwyr ynglŷn ag effaith y golled yna yn y nosweithiau o ofal seibiant sydd ar gael.