<p>Anifeiliaid Egsotig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:30, 5 Ebrill 2017

Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond y broblem gyda’r sefyllfa bresennol yw ei bod hi’n caniatáu, er enghraifft, i bobl gadw mwncïod mewn tai cyffredin, ac mae hefyd yn caniatáu i syrcasau gydag anifeiliaid egsotig byw, sy’n perfformio gyda’r anifeiliaid yna, i ymweld â Chymru. Felly, rydym wedi bod yn disgwyl ers rhai misoedd, os nad blwyddyn neu ddwy, i’r Llywodraeth weithredu ar y meysydd yma. Fedrwch chi, os gwelwch yn dda, roi y sicrwydd yna y bydd camau yn cael eu cymryd nawr gan y Llywodraeth i ddelio gyda phroblemau iechyd a lles anifeiliaid egsotig yng Nghymru?