Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch i Simon Thomas am ei gwestiwn. Mae swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yng Nghymru i drafod y ddogfen friffio sy’n galw am waharddiad ar anifeiliaid anwes egsotig, a bydd rhagor o gyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn perthynas â hynny. Rydym hefyd yn sôn am arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, ac mae ymarfer cwmpasu ar waith o dan brosiect cyflawni’r bartneriaeth i gasglu gwybodaeth gan awdurdodau lleol ynglŷn ag arddangosfeydd symudol o anifeiliaid sy’n weithredol yn yr ardaloedd hynny ar hyn o bryd. A bydd canlyniadau’r ymarfer hwnnw’n cael eu cyflwyno cyn bo hir, y mis hwn, mewn gwirionedd. Mae swyddogion hefyd yn gweithio ar ymgynghoriad ar sefydlu cynllun trwyddedu neu gofrestru yng Nghymru, a bydd yn cael ei lansio cyn toriad yr haf.