Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 5 Ebrill 2017.
Nid wyf wedi fy argyhoeddi o rinweddau cadw anifeiliaid egsotig fel anifeiliaid anwes, yn enwedig primatiaid, neu anifeiliaid sy’n gorfod bwyta anifeiliaid byw eraill er mwyn bwydo. Mae llawer o bobl yn methu gofalu am yr anifeiliaid hyn yn effeithiol, a naill ai’n eu gadael yn rhydd, sy’n achosi problemau, neu’n cael eu gwahardd yn y pen draw rhag cadw anifeiliaid anwes. A wnaiff y Gweinidog ystyried sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ymchwilio’r syniad o greu cofrestr o bobl sydd wedi eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid anwes?