Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 5 Ebrill 2017.
Rwy’n credu y gall y math o strategaeth gordewdra rydym ni’n galw amdani drwy’r Bil iechyd y cyhoedd hybu iechyd meddwl, yn ogystal ag iechyd corfforol. Ond, a ydy arweinydd y tŷ yn credu y dylai hynny fod yn ystyriaeth fel rhan o strategaeth fwyd y Llywodraeth, yn ogystal ag yn rhan o strategaethau ym maes iechyd?