Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Fel y gwyddoch, ac rydych wedi tynnu sylw at y cysylltiadau hyn, o ran y dystiolaeth, mewn perthynas ag anghenion ac effeithiau iechyd meddwl. Fel y gwyddoch, yn ystod Cyfnod 2 y gwaith craffu ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), cyflwynwyd gwelliannau i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi strategaeth ordewdra genedlaethol. Ac er bod y gwelliannau hynny wedi’u gwrthod, ymrwymodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi rhagor o ystyriaeth i’r strategaeth ordewdra genedlaethol, gyda’r bwriad o gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 3 mewn perthynas â’r mater hwn. Mae’n bwysig cydnabod hefyd fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus o ran lles, yn ogystal â phwysigrwydd asesiadau o’r effaith ar iechyd, er mwyn ystyried sut y gallwn sicrhau, yn systematig, fod penderfyniadau a chynlluniau’n cyfrannu at leihau gordewdra a chynyddu lefelau gweithgarwch corfforol.