Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 5 Ebrill 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei dulliau’n uchelgeisiol yn ei holl weithgaredd er mwyn datblygu strategaeth ynni cynaliadwy, ac er bod gan Lywodraeth y DU rôl i’w chwarae hefyd, i ganolbwyntio ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud o ran ardrethi busnes, ond hefyd y sector cyhoeddus, sy’n brynwr ynni mawr, a bod angen i ni ddefnyddio ein dulliau mewn modd effeithiol iawn. A wnewch chi annog eich cyd-Aelodau yn y Cabinet i ystyried hyn mewn modd cyfannol?