Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Ebrill 2017.
Gwnawn, wrth gwrs, ac mae hwn yn fater traws-Lywodraethol. Rydym wedi dechrau archwilio opsiynau sy’n darparu rhagor o fynediad, er enghraifft, at gyllid cost isel ac atebion ecwiti, a defnyddio arian Llywodraeth Cymru i ysgogi unrhyw fuddsoddiad ariannol pellach er mwyn cael gwared ar y rhwystrau i gyfalaf a grybwyllwyd gennych yn gynharach. Er hynny, hoffwn ddweud, wrth gwrs, mai’r rhwystr mwyaf i ddefnydd pellach o ynni adnewyddadwy yw diffyg mecanwaith cymorth cyllid addas ar lefel y DU.