Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 5 Ebrill 2017.
Rwyf wedi bod yn garedig gyda chi hyd yn hyn, ond nodaf eich sylw pryfoclyd. [Chwerthin.] Mewn ymgais i gyrraedd consensws, yn ôl yr adroddiad, er mwyn annog rhagor o gynlluniau sy’n eiddo i’r gymuned, mae angen inni ystyried rhagor o ddefnydd o fentrau cydweithredol er mwyn denu cyllid. Mae siarad mawr gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn ac mae’n cael llawer o gefnogaeth ar draws y Cynulliad yn hynny o beth, ond gobeithiaf y byddwch yn rhoi sylw brwdfrydig iawn i’r rhan honno o’r adroddiad, gan y gellid cael cryn dipyn o rymuso, ac mae defnyddio’r model hwnnw o ran ei allu cyffredinol i adfywio, ac nid ar gyfer ynni adnewyddadwy yn unig, yn ffordd allweddol o fynd i’r afael, efallai, â pheth o’r diffyg rydym wedi’i wynebu, yn draddodiadol, o ran denu cyllid.