Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, cytunodd y Cynulliad Cenedlaethol ddoe mai un ffordd y dylid ymateb i’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yw drwy gyflwyno Bil parhad Cymru er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi’r holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau Cymreig. Mae’n wir ein bod wedi pleidleisio 9-6, sy’n debycach i sgôr rygbi na phleidlais y Cynulliad, ond serch hynny roedd yn fwyafrif. Beth yw barn y Llywodraeth bellach ar y cynnig hwn, ac a yw’r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd ymgorffori cyfraith amgylcheddol yr UE, yn enwedig, yng nghyfraith Cymru er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a’r economi yn ogystal â’r amgylchedd?